Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Canllaw Goroesi'r Ysgol

Postiwyd gan InkNotMink o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 20/09/2012 am 16:08
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Addysg, Pobl, Yn Gymraeg

  • 1

English Version

O’n i’n meddwl buaswn i’n dod lan gyda chanllaw ar gyfer y rhai ohonoch chi sy’n mynd nl i’r (neu’n dechrau’r) ysgol. Gadewais i gwpl o flynyddoedd yn l ond yn meddwl buaswn i’n rhannu awgrymiadau gyda chi ar sut i oroesi:-

1. Mae yna nifer o fathau o blant sy’n mynychu’r ysgol a gellir eu hadnabod drwy nodweddion eu personoliaeth:

Bwli – plentyn sy’n hoffi pigo ar bobl eraill a gwneud iddyn nhw deimlo’n fach. Yn aml iawn gallwch eu ffeindio nhw yn hongian o gwmpas tu l i’r sied beiciau yn smygu (ddim yn c?l iawn)

Gwichiwr (Snitch) – plentyn sy’n hoffi cael pobl eraill mewn i drwbl drwy ddweud wrth athrawon neu ddisgyblion eraill yngl?n nhw peidiwch BYTH ag ymddiried mewn gwichiwr!

Angel – Plentyn mooooooor dda, yn anaml byddwch chi’n eu gweld tu allan i’r dosbarth, ond os ydych chi, bydd ganddyn nhw gylch o olau uwch eu pennau.

2. Mae yna nifer o wahanol fathau o athrawon yn yr ysgol. Dyma rhai esiamplau:

Ddim yn Ddoniol iawn – Bydd rhai athrawon yn ceisio fod yn c?l ac yn ddoniol ond maent yn dweud jcs sydd ddim yn ddoniol iawn. Ceisiwch chwerthin achos bydd hyn yn meddwl llai o wers

Chwaraeadol (Sporty) – Fel arfer mae’r athrawon AG, a fydd wastad yn ffafrio’r plant sy’n ardderchog mewn chwaraeon ac yn ceisio eich cael chi i ymuno mewn, hyd yn oed os ydynt yn gwybod byddwch chi’n ofnadwy. Well i chi gadw i’r cefn a jocan bod gennych chi bwyth ar brydiau anodd.

Sarrug (Grumpy)– Dyma’r ffurf fwyaf cyffredin o athro, yn sarrug iawn iawn! Hyd yn oed os taw chi yw top y dosbarth bob amser, bydden nhw dal i edrych arnoch chi gyda golwg penwan yn eu llygaid. PEIDIWCH AG AFLONYDDU’R athrawon hyn, yn enwedig os ydynt wedi crymu dros eu desgiau tu l i fynydd o waith cartref.

Menyw Cinio – Fel arfer mae menywod cinio yn llawen ac yn hapus. Gallwch chi fel arfer gweld menyw cinio yn gwenu ac yn hymian ei hoff gan ond peidiwch chael eich twyllo os ydych chi’n croesi menyw cinio, bydd trwbl MAWR

Prifathro/Prifathrawes – Maen nhw fel arfer yn llercian o gwmpas ei swyddfa ac ond yn dod allan ar adegau arbennig. Ceisiwch osgoi cael eich anfon i’w swyddfa oni bai eich bod chi wedi gwneud rhywbeth da gan nad ydyn nhw’n hoffi golau’r dydd.

3.  Mae’r gwersi bob amser yn rhan fawr o fywyd ysgol.

  • ?Er mwyn i chi allu goroesi bydd yn well i chi beidio gwylio’r cloc: mae hyn yn golygu bod amser yn mynd am nl!
  • Os ydy’ch gwaith yn dod yn l gyda llawer o farciau X, mae’n meddwl ei fod yn anghywir, dim cusanau o’r athro/athrawes.
  • Peidiwch fyth a chael eich dal yn cysgu, cnoi, poeri, rhegi neu’n gwneud unrhyw beth heblaw am anadlu neu weithio

4. Gwaith Cartref

Aaaaaah! Mae Gwaith Cartref yn ddamweingar iawn felly cadwch e’n ddiogel. Ni fydd y rhan fwyaf o esgusodion yn cael ei gredu felly mae’n well i chi gopo gwaith eich ffrind yn gyflym ar y bws ar y ffordd i’r ysgol (dim ond yn jocan – gwnewch eich gwaith cartref!)

Felly am unrhyw un sy’n mynd nl i’r ysgol, edrychwch allan am y disgyblion a’r athrawon hyn, efallai bydd yna frid newydd sydd heb ei rhestri uchod. Cymerwch fy nghyngor i er mwyn oroesi eich blwyddyn ysgol, ac mi fydd yn haf unwaith eto cyn hir!

Gwybodaeth  Addysg

Erthygl Perthnasol: Sut I Oroesi'r Chweched

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50