athletwyr o Gymru a fydd yn cystadlu yn Rio
Ddydd Sadwrn 12 Mehefin, aeth Triathlon Diva a Pellter Canolig Diva trwy Wrecsam. Mae triathlon yn cynnwys nofio, beicio a rhedeg pellterau amrywiol, o nofio 750 metr, beicio 20 cilometr a rhedeg 5 cilometr (pellter gwibio) yr holl ffordd i nofio 3.8 cilometr, beicio 180 cilometr a rhedeg 40 cilometr (Pellter Haearn). Eleni, mae 2 o’r tair merch sy'n cystadlu yn y triathlon Olympaidd yn Gymry. Bydd Non Stanford a Helen Jenkins yn cynrychioli Prydain ym Rio, Brasil 2016, ac mae gan y ddwy siawns dda o ennill medalau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am fwy o athletwyr o Gymru a fydd yn cystadlu yn Rio’n fuan.