Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Aelod Cynulliad yn lansio Ymgyrch Cam-drin Domestig Wrecsam

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 10/06/2016 am 11:56
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Bwyd a Diod, Pobl, Materion Cyfoes, Cyffuriau

  • Image 1
  • Image 2
  • image 3

Mae lleihau achosion o Gam-drin Domestig ac erledigaeth dro ar ol tro yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer partneriaid sy n gweithio yn y maes Diogelwch Cymunedol yn Wrecsam.  Rhan hanfodol o r gwaith hwn yw cynyddu hyder pobl wrth roi gwybod am achosion o Gam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a hefyd gwella mynediad at gymorth i ddioddefwyr a goroeswyr.
Er mwyn sicrhau y gall ddioddefwyr a goroeswyr gael mynediad at gymorth, mae partneriaid yn Wrecsam yn trefnu cyfres o ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn. Un o r ymgyrchoedd mwyaf arwyddocaol yw r Ymgyrch Rhuban Gwyn sy n ymgyrch byd-eang sy n annog dynion a merched i wisgo rhuban gwyn fel addewid personol i beidio byth a chyflawni, cydoddef neu gadw n dawel am drais yn erbyn merched.
Cynhelir yr ymgyrch Rhuban Gwyn yn flynyddol yn ystod mis Tachwedd. Mae myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus o Goleg Cambria yn cefnogi r gwaith yn flynyddol ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth fel rhan o u cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Yn ystod gweithgareddau ymgyrch y Rhuban Gwyn ym mis Tachwedd 2015 mynychodd y myfyrwyr sesiwn hyfforddi a hwyluswyd gan staff Cymorth i Ferched Cymru yn Wrecsam, Cam wrth Gam a Thim Partneriaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn dilyn y sesiwn hyfforddi, rhoddwyd tasg i r myfyrwyr ddatblygu deunyddiau codi ymwybyddiaeth i w defnyddio ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.    
Yn ddiweddar, mynychodd Aelod Cynulliad Wrecsam, Lesley Griffiths, ddigwyddiad yng Ngholeg Cambria i lansio r ymgyrch Cam-drin Domestig yn ffurfiol. Datblygodd y Myfyrwyr ddeunydd cyhoeddusrwydd ar ffurf llewys ar gyfer cwpanau diodydd poeth tafladwy. Mae'r llewys � brand yn rhoi gwybodaeth gryno am Gam-drin Domestig a manylion am y llinell gymorth rhad ac am ddim, Byw Heb Ofn.
Dywedodd Lesley Griffiths AC: Mae'r ymgyrch leol yn enghraifft wych o wahanol sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i oresgyn trais yn erbyn merched.  Er bod mwy i'w wneud o hyd, yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o waith da wedi i wneud yn lleol ac yn genedlaethol, gan helpu i godi ymwybyddiaeth ac annog dioddefwyr cam-drin domestig i beidio a dioddef yn dawel.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50