Adolygiad Gwariant
English version
Yn rhybuddio am effaith y toriadau wedi’i amlinellu yn adolygiad gwariant y Llywodraeth, mae’r elusen pobl ifanc Catch 22 yn pwyntio at yr effaith cronnus ar bobl ifanc.
Dywedai Alan Booth, Cyfarwyddwr Cyfathrebiadau, “Mae’r Llywodraeth wedi dweud nad ydyw eisiau i genhedlaeth y dyfodol dalu am gamgymeriadau'r un presennol, er hynny, yn edrych ar y toriadau hyn mae’n anodd gweld sut na fyddent.
“Roeddem i gyd yn ymwybodol byddai toriadau yn ddwys ond mae’r Llywodraeth i weld wedi anwybyddu rhai o’r bobl ifanc fwyaf bregus.
“Mae’r toriadau i gyllideb awdurdodau lleol sydd wedi’i gyhoeddi am gael effaith dwys ar ein gwasanaethau lleol, y bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw a’r cymunedau maent yn byw ynddynt.
“Mae penderfyniadau fel y lleihad mewn darparu tai cymdeithasol a phinio’r rhent cyngor i brisiau farchnad am ehangu’r gagendor ymhellach rhwng rhai o’r bobl ifanc fwyaf dan anfantais, sydd nawr heb obaith o gael cartref eu hunain, a gweddill cymdeithas.”
Mewn arolwg diweddar, ymysg pobl 16 i 25 oed, darganfydd Catch 22 fod bron i 30% o bobl ifanc wedi dweud fod darparu tai fforddiadwy yn flaenoriaeth.
Ychwanegodd Alan Booth:
“Mae pobl ifanc eisiau bod yn oedolion annibynnol gyda swydd, cartref a dyfodol sefydlog. Nawr, mae’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael trafferth y rhai tlotaf, y rhai sydd yn gadael gofal a’r rhai o gefndir anhrefnus yn wynebu’r realiti o’u cymorth yn cael ei dorri pan maen nhw angen o fwyaf.”
Mae Catch 22 yn elusen leol gyda chyrraedd cenedlaethol. Rydym yn gweithio mewn dros 150 o drefi a dinasoedd, gyda degau o filoedd o bobl ifanc bob blwyddyn 0 yn cefnogi pobl ifanc gyda bywydau caled sydd yn wynebu sefyllfaoedd anodd sydd efallai wedi cael magwraeth galed neu yn byw mewn cymdogaeth anodd.
Mae ein rhaglenni yn helpu datblygu hyder a sgiliau i gael gafael ar yr atebion sydd yn gywir; o gael yn l i mewn i’r ysgol neu hyfforddiant, dewis i aros i ffwrdd o droseddu, darganfod lle diogel i fyw a helpu efo’r sgiliau sydd angen i fyw yn annibynnol ar l gadael gofal neu warchodaeth.
DELWEDD: Ren Ehrhardt