Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adnabod Cefn Gwlad Cymru?

Postiwyd gan Staffs_Uni o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 18/09/2014 am 14:46
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Amgylchedd, Iechyd, Pobl, Chwaraeon a Hamdden

English Version // Yn Saesneg

Wyt ti'n ymweld â'r cefn gwlad i gerdded, beicio neu ddarganfod llefydd newydd?

Pa rannau o'r cefn gwlad wyt ti'n hoffi a beth ti ddim yn hoff ohono?

Rydym yn gwneud ychydig o ymchwil i Lywodraeth Cymru i ymchwilio'r mathau o dirluniau mae pobl yn hoff ohonynt a ddim mor hoff ohonynt, ac mae gennym ddiddordeb mawr yn beth TI'N ei feddwl!

Hyd yn oed os nad wyt ti'n ymweld â'r cefn gwald - edrycha ar rhai o'r lluniau tirluniau yn ein harolwg a rhoi dy farn arnynt.

Clicia ar y ddolen yma i gychwyn yr arolwg: www.glastir-mep-surveys.org.uk

Mae'r holiadur yn ddienw, ond bydd dy farn di yn helpu diweddaru'r polisïau sydd yn dylanwadu sut mae Cymru wledig yn cael ei reoli gan ffermwyr a pherchnogion tir - dyma dy gyfle di i gael dweud dy ddweud am sut fydd y cefn gwlad yn edrych yn y dyfodol!

Gwybodaeth - Amgylchedd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50