Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sut i gymryd rhan yn Wrecsam Ifanc?

Mae Wrecsam Ifanc yn dibynnu ar ymgysylltu ac ennyn cyfranogiad pobl ifanc. Gall hyn amrywio o bobl ifanc yn anfon erthyglau atom, uwchlwytho ffotograffau/fideos a gadael i ni wybod pa ddigwyddiadau sy'n digwydd yn yr ardal lle maen nhw'n byw. Dyma rai o'r ffyrdd y medrwch chi gymryd rhan:

Creu cyfrif:

Trwy fewngofnodi i Wrecsam Ifanc yn lle bynnag sy'n cynnig mynediad i'r rhyngrwyd fe gewch chi uwchlwytho erthyglau gynted ag rydych chi wedi gorffen eu sgwennu. Yna maen nhw'n cael eu hanfon at y Golygydd i wirio'u cynnwys, er mwyn gwneud yn siwr nad oes iaith na delweddau anweddus. Ar ôl eu gwirio maen nhw'n cael eu hanfon at y cyfieithydd. Gall cyfieithu gymryd dipyn o amser, ond peidiwch â phoeni, oherwydd gynted ag y bo'r gwaith yn ei ôl bydd yn cael ei lwytho i'r wefan i fynd yn 'fyw'.

Bod yn ddarpar Ohebydd:

A oes gennych chi awydd rhoi adroddiadau ar faterion lleol? Materion sy'n berthnasol i bobl ifanc eraill yn Wrecsam, Cymru, y Deyrnas Unedig a'r byd. Os hoffech chi wneud hyn yna ewch ati i greu cyfrif a dechrau cyflwyno adroddiadau. Mae croeso i chi ymuno â'n grŵp golygyddol hefyd i gael achrediadau am eich gwaith.

Grŵp Golygyddol

Mae'r grŵp golygyddol yn edrych ar yr erthyglau ar gyfer y wefan, a buont yn rhan o lunio dyluniad presennol y wefan. Maen nhw wedi mynd ar gyrsiau preswyl gyda Clic a grwpiau golygyddol eraill yng Nghymru, a chael hyfforddiant mewn sgwennu creadigol, dweud straeon digidol ac ati, ac wedi derbyn achrediad a thystysgrif am hynny. Mae'r holl bobl ifanc sydd neu a oedd yn arfer mynychu'r grŵp golygyddol yn rhan o'r cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymwneud â gwefan Wrecsam Ifanc (a'ch bod chi rhwng 11 a 25 oed) trwy ymuno â'r grŵp gweinyddol gadewch i ni wybod trwy:

Ffonio: 01978 358900
E-bost: infoshop@wrexham.gov.uk

Mae'r grŵp golygyddol yn cyfarfod bob yn ail ddydd Iau rhwng 4.30 pm a 6.30pm yn y Siop INFO ar Stryt Caer yn Wrecsam.

Rhai o'r pethau rydyn ni wedi eu gwneud hyd yma?

  • Mynd ar bedwar cwrs preswyl mewn gwahanol rannau o Gymru.
  • Roeddem ni'n bresennol yng ngwobrau Clic yng Nghaerdydd, lle'r oedd pobl ifanc wedi eu henwebu am yr erthyglau maen nhw wedi'u huwchlwytho neu fideos maen nhw wedi'u gwneud.
  • Parti Nadolig gyda chriw y Siop Info a'r grŵp golygyddol.
  • Teithiau i leoliadau grwpiau ieuenctid eraill.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50