Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

WYTHNOS GENEDLAETHOL GWRTH-FWLIO

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 08/11/2012 at 12:01
0 comments » - Tagged as Education, People, School Holiday Activities, Topical, Work & Training

19 – 23 Tachwedd 2012

 

Beth yw bwlio?

 

Gall bwlio ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oed a gall gynnwys:

 

  • Enwau’n cael eu galw arnoch

  • Cael eich herian

  • Cael eich gwthio neu eich tynnu

  • Arian ac eiddo arall yn cael ei gymryd  oddi arnoch neu’n tarfu ar eich eiddo

  • Sibrydion yn cael eu lledaenu amdanoch

  • Cael eich anwybyddu a’ch gadael allan

  • Cael eich taro, eich cicio neu eich niweidio’n gorfforol mewn unrhyw ffordd

  • Cael eich bygwth, eich dychryn neu ddioddef ymosodiad efallai oherwydd eich crefydd, rhyw, rhywioldeb, anabledd, ymddangosiad neu hil.

 

Ni does raid i fwlio ddigwydd wyneb i wyneb, er enghraifft gall ddigwydd ar-lein.

 

Gall bwlio hefyd fod yn rhan o gamdriniaeth arall gan gynnwys esgeulustod, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth gorfforol a rhywiol.

 

 

Arwyddion posibl o fwlio

 

Gall plant er enghraifft:

 

  • Deimlo’n sl yn y boreau

  • Triwantio o’r ysgol

  • Dechrau gwneud y gwaith ysgol yn wael

  • Dod adref yn rheolaidd gyda’u llyfrau neu ddillad wedi eu difrodi

  • Tawelu, dechrau atal dweud a bod diffyg hyder

  • Dechrau poeni a bod yn flinderus a rhoi’r gorau i fwyta

  • Fod chleisiau, toriadau neu grafiadau anesboniadwy

  • Fod yn afresymol ac ymosodol

  • Disgyn i gysgu’n crio a chael hunllefau

  • Bygwth neu ymdrechu i gymryd eich bywyd.

 

Sut allwch chi ddiogelu eich hunan rhag cael eich bwlio?

 

  • Peidiwch ag anwybyddu bwlio – ni fydd yn diflannu ar ei ben ei hun a gallai waethygu..

  • Os byddwch yn ceisio gwrthymosod efallai y byddwch yn gwneud y sefyllfa’n waeth a mynd i helynt eich hunan.

  • Yn hytrach, dywedwch wrth rhywun rydych yn ymddiried ynddo – megis athro, rhiant, gweithiwr ieuenctid, cwneslydd ysgol neu ffrind.

  • Os nad yw’r unigolyn y byddwch yn dweud wrtho yn deall peidiwch digalonni - dywedwch wrth rywun arall.

  • Os dywedwch amdano, mae yna bobl sy’n pryderu a gwnnt wrando arnoch a’ch helpu.

  • Gallech hefyd ffonio llinell gymorth neu fynd ar wefan, gan fod rhai pobl yn ei gweld yn haws anfon llythyr, e-bost neu neges destun.

  • Ewch i’r gwefannau yn y rhan Cysylltiadau Defnyddiol ar y daflen hon.

  • COFIWCH – nid yw’n fai arnoch chi!  Does neb yn haeddu i gael eu bwlio.

 

 

Cysylltiadau defnyddiol

 

www.childline.org.uk                                              0800 11 11

 

www.samaritans.org.uk                                          08457 90 90 90

 

www.papyrus-uk.org                                               HOPELineUK 08000  684141

(atal hunanladdiad mewn ieuenctid)

 

www.bullying.co.uk

 

www.kidscape.org.uk                                              *Llinell Gymorth 08451 205 204

(* mae’r llinell gymorth hon ar gyfer rhieni, gwarcheidwaid neu berthnasau pryderus a ffrindiau plant sy’n cael eu bwlio).

 

 Outside In Counselling  01978 358900 (yn Info)

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.