Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Pobl ifanc Wrecsam yn cymryd rhan yn Nhaith Gerdded Fawr Cymru 2012

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 17/10/2012 at 12:08
0 comments » - Tagged as Environment, People, School Holiday Activities, Volunteering

Mae wyth deg o bobl ifanc o Wrecsam yn bwriadu cymryd rhan yn Nhaith Gerdded Fawr Cymru a gynhelir ar 3 Tachwedd yn rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni.

Bydd y bobl ifanc yn cerdded ar hyd Clawdd Offa o Sylatyn ar ffin Croesoswallt at Foel Famau yn Sir y Fflint – taith gerdded deugain cilometr o hyd. Byddant yn cerdded mewn 8 grwp o 10, a phob grwp yn cerdded 5 cilometr.

Bydd Taith Gerdded Fawr Cymru 2012 yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Clawdd Offa - camp ryfeddol 1,047 (1,685 cilometr) o filltiroedd o hyd - a bydd y bobl ifanc yn cerdded y rhan o’r llwybr sydd oddi mewn i’w sir nhw. Bydd gweithwyr ieuenctid o 22 o awdurdodau lleol Cymru ac o Gyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru yn ymuno ’r bobl ifanc yn yr her.

Cynhelir y daith gerdded yn ystod yr Wythnos Gwaith Ieuenctid, ac mae’n tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc a ddarperir yn wirfoddol neu drwy gefnogaeth cynghorau. Bydd bron 300,000 o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru yn elwa ar y gwasanaethau hyn bob blwyddyn, gydag 8,000 o’u plith yn dod o Wrecsam. Bydd y gwasanaethau’n helpu pobl ifanc wrth iddynt droi o fod yn blant i fod yn oedolion, ac o fod yn ddibynnol i fod yn annibynnol. Yn ystod yr Wythnos Gwaith Ieuenctid, bydd digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal ledled y wlad er mwyn annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu hardal.

Yn l y Cyng. Mike Williams, yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Addysg:

"Dyma gyfle gwych i bobl ifanc Wrecsam gael cymryd rhan mewn digwyddiad sydd mor unigryw. Bydd yn ddathliad o’r gwaith rhagorol a wnaed gan ein gwasanaethau ieuenctid ac o gyflawniadau’r bobl ifanc eu hunain. Gobeithiaf na fydd y tywydd yn achosi unrhyw broblemau ac y bydd pawb yn mwynhau’r digwyddiad."

Yn l Craig Mathews, sy’n trefnu’r digwyddiad ar ran Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam:

“Yn aml rhoddir cyhoeddusrwydd drwg i bobl ifanc oherwydd ymddygiad y lleiafrif, ond mae hyn yn gyfle iddynt ddisgleirio – maent i gyd yn edrych ymlaen at y digwyddiad, ac at fwynhau’r golygfeydd prydferth a dathlu eu llwyddiant, a llwyddiant y gwasanaeth ieuenctid."

Cydlynir digwyddiad Cymru gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy mewn partneriaeth gwasanaethau ieuenctid ledled Cymru, ac ar y cyd Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cynhelir Taith Gerdded Fawr 2012 ddydd Sadwrn 3 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth, neu er mwyn cymryd rhan, ewch i’ch canolfan ieuenctid leol neu gysylltu craig.mathews@wrexham.gov.uk

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.