Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Nid yw camdriniaeth deuluol fyth yn dderbyniol

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 04/12/2012 at 14:22
0 comments » - Tagged as Health, People, Topical

Beth bynnag ei ffurf, anaml y bydd camdriniaeth deuluol yn digwydd unwaith ac am byth. Yn hytrach, caiff ei weld fel patrwm o ymddygiad treisiol a rheolaethol lle bydd y camdriniwr yn ceisio cael p?er dros y dioddefwr. Mae camdriniaeth deuluol yn digwydd ymhob rhan o gymdeithas, heb ystyried oed, rhyw, hil, rhywioldeb, cyfoeth nac ymhle mae rhywun yn byw.

Mae’n bwysig sylweddoli na wyddoch efallai eich bod efo rhywun sy’n dreisiol gan dderbyn y gall hyn fod yn broses araf weithiau. Gall ddechrau gyda’ch partner yn dewis beth gewch ei wisgo neu bwy gewch chi weld pan fyddwch yn mynd allan, efo pa ffrindiau gewch chi fynd neu a gewch chi fynd allan o gwbl.

Beth yw’r broblem?

Mae 2 filiwno blant a phobl ifanc yn y DU yn dioddef camdriniaeth rywiol ac ni fydd llawer ohonynt yn dweud wrth neb

Bydd tua 750,000 o blant a phobl ifanc yn gweld trais yn eu cartrefi bob blwyddyn

Dywed un ym mhob 16 o ferched 13 i 17 oed iddynt gael eu treisio

Mae 24,000 o ferched ifanc sy’n byw yn y DU mewn perygl mawr o ddioddef anffurfio cenhedlol

Mae mwy nag un ymhob tri o holl dreisiau sy’n cael eu cofnodi gan yr heddlu ar blant dan 16

Beth yw Perthynas Dreisiol?

Gall perthynas dreisiol gynnwyscenfigen eithafol, diffyg agosrwydd, gorfodaeth rywiol, anffyddlondeb, cam-drin geiriol, bygythion, celwyddau, torri addewidion, trais corfforol, dangos grym a gemau rheoli.

Nid yw camdriniaeth yn gorfod bod yn gorfforol.

Mae cam-drin emosiynol yr un mor niweidiol chamdriniaeth gorfforol, ere i fod yn aml yn anoddach ei adnabod ac, felly, i ddod drosto. Mae cam-drin emosiynol yn achosi problemau hunan-barch hirdymor ac effeithiau emosiynol ar bartneriaid y camdrinwyr. Weithiau bydd y camdriniwr yn datgan cariad bythol ac yn addo y bydd yn newid, gan roi gobaith i’r dioddefwr y gall y camdriniwr newid ac, felly, bydd y berthynas yn parhau.

Mae perthynas dreisiol yn gynyddol -

Bydd perthynas dreisiol yn gwaethygu o hyd. Yn aml bydd cam-drin emosiynol a geiriol yn symud i fygythion mwy agored neu gamdriniaeth gorfforol, yn enwedig ar adegau o straen. Yn gyffredinol mae camdrinwyr yn anghenus a rheolaethol iawn; bydd y cam-drin yn dwysu pan fyddant yn teimlo y gallant golli eu partner, neu pan ddaw’r berthynas i ben.

Gallwch fod mewn perthynas dreisiol os yw’r llall:

  • Yn genfigennus neu feddiannol tuag atoch.
  • Yn ceisio’ch rheoli trwy fod yn awdurdodus iawn neu ofyn llawer.
  • Yn ceisio’ch ynysu trwy fynnu eich bod yn rhoi’r gorau i fynd allan neu weld eich mts.
  • Yn ffyrnig a/neu’n colli’i limpin yn gyflym.
  • Yn rhoi pwysau rhywiol arnoch, yn hawlio gweithgareddau rhywiol sy’n annifyr i chi.
  • Yn eich beio chi pan fydd yn eich cam-drin.
  • Yn gwneud i chi bryderu’n aml ynghylch sut fydd yn ymateb i bethau a ddywedwch neu a wnewch.
  • Yn gwneud “jcs” sy’n codi cywilydd, bychanu, diraddio neu beri embaras i chi, pa un ai’n breifat neu o gwmpas teulu a ffrindiau.

Beth yw perthynas gadarnhaol?

Parch y naill at y llall. Mae’n wirioneddol bwysig bod eich partner eich hoffi oherwydd pwy ydych. Parch y naill at y llall hefyd yw gwrando ar eich partner pan fydd yn dweud nad yw eisiau gwneud rhywbeth a pheidio phwyso i newid meddwl.  Mae parch mewn perthynas yn golygu bod pob un yn gwerthfawrogi ei gilydd fel unigolyn ac yn parchu hawl i wneud dewisiadau a barnau gwahanol hyd yn oed os nad ydych yn cytuno.

Ymddiried. Mae’n hanfodol ymddiried mewn unrhyw berthynas, mae’n iawn i chi fod ychydig yn genfigennus weithiau, mae cenfigen yn deimlad naturiol. Ond sut mae rhywun yn ymateb wrth deimlo’n genfigennus sy’n bwysig. Allwch chi ddim cael perthynas iach os na fyddwch yn ymddiried yn eich gilydd.

Gonestrwydd. Mae hyn yn mynd law yn llaw ag ymddiried oherwydd ei bod yn anodd ymddiried yn rhywun pan nad yw un ohonoch yn bod yn onest. Os cewch eich hun yn dweud celwydd wrth eich partner, holwch eich hun pam.

Cyfathrebu da. Ynghyd ag ymddiried a gonestrwydd mae hyn yn bwysig. Mae siarad yn agored ’ch gilydd a sicrhau eich bod yn deall eich gilydd yn wych mewn perthynas. Peidiwch fyth chuddio teimladau am eich bod ofn nid yw’n rhywbeth mae eich partner eisiau ei glywed neu oherwydd eich bod yn poeni y byddwch yn swnio’n wirion.

Cefnogaeth. Nid yn unig ar adegau drwg y dylai eich partner eich cefnogi. Mewn perthynas iach, mae eich partner yno i fod yn gysur i chi drwy’r amserau drwg a rhywun i ddathlu efo chi pan fo pethau’n dda.

Ffrindiau. Peidiwch ag anghofio eich ffrindiau. Ar ddechrau perthynas byddwch yn treulio eich holl amser rhydd gyda’ch partner ac yn anghofio pawb arall. Rydych yn dewis eich mts am reswm; felly peidiwch ag anghofio amdanynt. Byddant yno i’ch cefnogi os bydd pethau’n mynd o chwith. Mae’n bwysig treulio amser gyda’ch ffrindiau hefyd; mae gennych ddigonedd o amser i dreulio efo’ch partner.

Tegwch / cydraddoldeb. Mae angen i chi roi a derbyn yn eich perthynas hefyd. Fyddwch chi’n dewis bob yn ail beth i’w wneud dros y penwythnosau? Ydych chi’n treulio amser efo mts eich gilydd yn gyfartal?

Bod yn Chi eich Hun. Mewn perthynas iach, mae pawb yn gorfod cyfaddawdu. Mae’n wych bod mewn perthynas ond cofiwch fod gennych eich bywyd eich hun cyn y berthynas. Mae’n bwysig peidio ag anghofio eich teulu a’ch ffrindiau.

Peidiwch theimlo eich bod ar eich pen eich hun. Dyma fanylion rhai llefydd lle gallwch gael cefnogaeth.

http://thisisabuse.direct.gov.uk/

http://www.bawso.org.uk/

http://www.childline.org.uk/Pages/Home.aspx

http://www.womensaid.org.uk/

http://www.youngwrexham.co.uk/en/organisations/outside-in-counselling/04321.html

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.