Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Mis Ymwybyddiaeth Straen Taflen wybodaeth

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 30/04/2013 at 12:29
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Topical

Be’ ydy Straen?

Yn ei hanfod straen, neu stres, ydy’r anghydbwysedd rhwng y galwadau arnoch chi a’ch gallu chi i ymdopi â’r galwadau hyn.  Yn aml mae straen yn cael ei ystyried fel emosiwn negyddol, ond mae’n chwarae rôl bwysig yn ein goroesiad. Mae straen yn sbarduno ymateb awtomatig wedi’i ddylunio i sicrhau ein bod ni’n ymdopi’n effeithiol mewn argyfwng. Mae straen yn gwneud i’ch corff gynhyrchu adrenalin; bydd yr adrenalin hwn yn eich helpu i berfformio’n dda mewn sefyllfaoedd heriol. Mae pob un ohonom ni yn ymateb i ac yn ymdopi â straen mewn ffyrdd gwahanol, ond pan fo’r straen yn rheolaidd a ddim yn llacio, gall hyn fod yn newyddion drwg. 


Rhai o symptomau straen

Newid mewn hwyliau
Diffyg canolbwyntio
Diffyg awydd bwyd
Problemau cysgu
Teimlo wedi blino drwy’r amser
Cur pen yn gyson

Pwy sy’n cael ei effeithio gan straen?
Gall hyn effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywydau.  Gall bod yn berson ifanc ar fin bod yn oedolyn fod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol mewn bywyd, gyda llawer o newidiadau corfforol ac emosiynol. 
Efallai y byddwch chi’n teimlo dan straen mewn gwahanol agweddau o’ch bywyd – p’un ai adref efo’ch teulu, yn yr ysgol ac adeg arholiadau, gyda’ch ffrindiau neu mewn perthynas. 
Help â straen

Mae ar bawb angen cymorth i reoli pwysau a straen o dro i dro. 

Weithiau mae straen yn eich llethu. Yn enwedig os ydy’r sefyllfa sy’n achosi’r pwysau yn mynd ymlaen ac ymlaen, a’r problemau fel petaen nhw’n dal i bentyru. Fe allech chi deimlo eich bod wedi eich dal, ac nad oes ffordd o ddianc a dim modd o ddatrys eich problemau. Os ydych chi’n teimlo fel hyn, mae’n bwysig iawn gofyn am help. 


Dylech chi ofyn am help……….  

Os ydych chi’n teimlo bod straen yn effeithio ar eich iechyd 
Os ydych chi’n teimlo bod pethau mor wael eich bod chi’n ystyried rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol, rhedeg i ffwrdd neu niweidio eich hun 
Os ydych chi’n teimlo’n isel, yn drist, yn ddagreuol neu nad oes gwerth byw
Os ydych chi’n colli eich awch am fwyd ac yn ei chael yn anodd cysgu 
Os oes gennych chi bryderon, teimladau a meddyliau y mae’n anodd siarad amdanyn nhw am eich bod chi’n teimlo na fydd pobl yn eich deall chi neu’n meddwl eich bod chi’n ‘od’ 
Cofiwch, mae’n bwysig iawn gweithredu ar fyrder i stopio straen a allai fod yn niweidiol – cyn iddo effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol. 


Cysylltiadau defnyddiol


Cwnsela ‘Outside In’ Wrecsam Ifanc 

Young Minds

Childline
Llinell gymorth: 0800 1111

Y Samariaid:
Llinell gymorth: 08457 909 090

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.