Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Mae dy farn yn bwysig

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 04/10/2013 at 09:43
0 comments » - Tagged as Education, People, Topical

Dylai pawb yng Nghymru gael cyfle i ddweud eu dweud am y ffordd y mae eu gwlad yn cael ei rhedeg. Un ffordd o wneud hyn yw drwy bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau’r DU. Beth os nad wyt yn ddigon hen i bleidleisio eto?

Mae’r Cynulliad yn Gynulliad i bawb. Hoffem wybod beth y mae pawb yn ei feddwl am ddyfodol ein gwlad. Mae hynny’n cynnwys pobl o bob oedran, crefydd, gallu, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu rywedd.

Os wyt rhwng 11 ac 18 oed, mae angen dy help arnom. Hoffem i ti ddweud wrthym beth sy’n bwysig i ti, beth yr wyt yn ei ddisgwyl gennym a beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed. Mae angen i ti ddweud wrthym beth fyddai’r ffyrdd gorau i ti gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad.

Efallai nad wyt yn hapus gyda rhywbeth sy’n digwydd yn dy ardal leol, a dy fod am newid y peth hwn, neu efallai dy fod yn credu y dylid gostwng yr oedran pleidleisio. Nid oes unrhyw fater yn rhy fawr neu’n rhy fach.

Unwaith i ni glywed barn cynifer o bobl ifanc yng Nghymru â phosibl, byddwn yn edrych ar yr hyn yr ydych wedi’i ddweud wrthym ac yn awgrymu ffyrdd i’w wneud yn rhwyddach i chi gysylltu â’r Cynulliad a gwneud gwahaniaeth.

Ti yw pleidleisiwr y dyfodol, ac mae’n bwysig dy fod yn cael dweud dy ddweud yn awr am y ffordd y caiff Cymru ei rhedeg.

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.