Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Fuoch chi erioed yn methu cysgu?

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 30/05/2013 at 15:42
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Topical

Fuoch chi erioed yn methu cysgu? Dyna ydi fy mhroblem i ar y funud. Fedrwn i ddim y llynedd chwaith am yr un rheswm – arholiadau!!

Un gair, un gair syml 9 llythyren yn achosi i ni i gyd ddioddef, drysu a phryderu. Wn i ddim amdanoch chi, ond weithiau pan fydda’i yn methu cysgu mi fyddaf yn mynd i mewn i ryw fyd ofnadwy – teimlo’n unig a gwan, teimlo’n anghyfforddus ac yn methu cario ymlaen. Mae’r cyfan yn hunllef a dim modd i’w osgoi.
Mae gen i dair arholiad diwedd blwyddyn fory a dyna’r rheswm dros y dryswch heno. Fedrai ddim cael hyn allan o fy meddwl. Y cyfan sy’n dod i’m meddwl ydi “Pa flwyddyn y cafodd Catherine of Aragon ei geni?" neu "Sut cafodd ystumllyn ei ffurfio?” Fum i erioed yn dda o gwbl mewn arholiadau a phrofion. Mi fyddai bob amser yn poeni a phoeni a byth yn gwneud cystal ag y dyliwn mewn prawf. Mae’n teimlo fel pe bai popeth oeddwn wedi ei ddysgu yn ystod y dyddiau cynt wedi hedfan yn llwyr allan o’m meddwl. Ac mi wn bod athrawon yn dweud pethau fel  "Wel, paid â phoeni – mi fyddi di yn iawn” ond y gwir ydi ’mod i’n gwybod na fydda’i ddim yn iawn. Mi wn y bydda’i yn mynd adra, yn adolygu’n galed, yn mynd i’r gwely ac yn methu cysgu - ac yn yr arholiad y diwrnod wedyn yn rhewi ac yn anghofio popeth (fel arfer).

Fedrai ddim dioddef hyn ddim mwy. Mae hyn yn effeithio arnai. Mae’n rhaid i mi gael cwsg. Mae’n deimlad erchyll bod popeth ydwi wedi ei ddysgu a’i gofio yn diflannu mewn un noson ddi-gwsg. Arholiadau – dwi’n eu casau……..

Info >> Education >> Study Skills
Info >> Health >> Health & Body Matters >> Sleeping

IMAGE: betsyjean79 via Compfight cc

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.