Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Chwalu'r Rhwystrau

Posted by DylanG from Wrexham - Published on 16/12/2013 at 10:18
0 comments » - Tagged as Culture, People, Sport & Leisure, Topical, Volunteering

English version // Yn Saesneg

Wythnos diwethaf postiodd y medalydd efydd Olympaidd Tom Daley fideo ar YouTube yn cyhoeddi ei fod mewn perthynas â dyn.

Dywedodd. "mewn bywyd perffaith ni fyddwn i'n gwneud y fideo yma oherwydd ni fyddai o bwys".

Ond yng nghymdeithas heddiw, yn anffodus mae o. Mewn sawl gwlad mae'n beryglus bod yn hoyw.

Felly, ydy hi'n syndod bod athletwyr yn dewis cadw'n ddistaw am eu rhywioldeb yn hytrach na'r risg o ddweud y gwir? Dyna pam bod penderfyniad Tom wedi cael ei ddisgrifio fel un dewr. Dwi'n sicr bydd yr effaith ar bobl ifanc yn un enfawr.

Ni ddylai tueddfryd rhyw person fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ond mae ymchwil yn dangos ei fod. Dyma un esiampl o rwystr i gyfranogaeth na ddylai fodoli.

I roi syniad i ti o beth mae'r symudiad Llysgenhadon Ifanc yn ei wneud i frwydro'r anghydraddoldeb rydym yn ei wynebu yng Nghymru, dyma flog ymddangosodd yn y  Cylchlythyr Llysgenhadon Ifanc. (Os nad wyt ti wedi clywed am Lysgenhadon Ifanc o'r blaen, rydym yn bobl ifanc sy'n angerddol am chwaraeon. Ein nod ydy helpu ysbrydoli cenhedlaeth ac i fod yn ddelfryd ymddwyn i ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon.)

Pa werthoedd Olympaidd neu Paralympaidd sy'n fwyaf pwysig i ti? Dewrder? Cyfeillgarwch? Beth am gydraddoldeb? Fel llysgenhadon ifanc rydym yn ymdrechu i gael pob plentyn yn dwlu ar chwaraeon am fywyd. Yn ddifater i oedran, rhyw, ethnigrwydd neu dueddfryd rhywiol dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ond dydy hynny ddim yn digwydd bob tro. I rai gall chwaraeon llonni, cyffroi a bod yn bleser, i eraill gallai fod yn brofiad hollol gwahanol. Yn wynebu stereoteipiau negyddol, rhagfarnau neu ddiffyg darpariaeth efallai bydd rhai pobl efo agwedd negyddol iawn tuag at chwaraeon ac yn dewis peidio cymryd rhan.

Er mwyn helpu chwalu'r rhwystrau yma i gyfranogaeth, mae Chwaraeon Cymru wedi recriwtio pedwar llysgennad ifanc ledled Cymru i ddod yn 'bencampwyr  cydraddoldeb. Ein rôl ni ydy i helpu codi ymwybyddiaeth o'r ffactorau sy'n effeithio cyfranogaeth ac i hyrwyddo cydraddoldeb.

I helpu ni i ennill dealltwriaeth well o'n rôl ni aethom i weithdy yng Nghaerdydd. Yn ystod y dydd cawsom y cyfle i gyfarfod aelodau staff allweddol o Chwaraeon Cymru a dysgu mwy am gydraddoldeb. Cyn hir daethom i werthfawrogi cymhlethdod y materion sydd yn gallu atal cyfranogaeth mewn chwaraeon. Mae genethod yn llai tebygol o gymryd rhan tair waith neu fwy'r wythnos ac i 'ddwlu' ar chwaraeon.

Mae 75% o bobl LHD (lesbiaid, hoyw a deurywiol) wedi clywed 'herian' homoffobig tra'n un ai'n gwylio neu gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o fod yn aelod o glwb chwaraeon. Dim ond rhai o'r problemau sydd wedi cael eu hadnabod trwy ymchwil ac ymgynghoriadau Chwaraeon Cymru a'u partneriaid yw'r rhain.

Fel llysgenhadon cydraddoldeb rydym yn gweithio tuag at chwalu rhwystrau, newid agweddau a chynyddu cyfranogaeth yn ddifater i gefndir. I wneud hyn, rydym eisiau dy help di. Fel pobl ifanc ni ydy'r rhai gorau i ddylanwadu a helpu siapio dyfodol cyfranogaeth chwaraeon. Blwyddyn ar ôl Llundain 2012 ble am y tro cyntaf yn hanes y Gemau, roedd pob gwlad oedd yn cystadlu efo athletwyr benywaidd yn eu tîm.

Gwelsom hefyd beth gafodd ei ddisgrifio fel y Gemau Paralympaidd gorau erioed" gan Syr Philip Craven. Mewn pôl y BBC gan ComRes gwelwyd bod 79% o bobl di-anabl yn credu bod agweddau wedi newid tuag at bobl anabl ers y Gemau Paralympaidd. Tra bod pethau yn newid am y gorau, mae yna dal llawer iawn i'w wneud.

Ein dyletswydd ni fel Llysgenhadon Ifanc ydy sicrhau bod etifeddiaeth y Gemau yn parhau ac yn symud ymlaen. Mae'r symudiad llysgenhadon ifanc yn tyfu'n barhaol. Gyda'n gilydd gallwn helpu hyrwyddo cydraddoldeb a gwneud gwahaniaeth i gyfranogaeth mewn chwaraeon.

Gallem gychwyn trwy gael pobl yn siarad am gydraddoldeb. Beth mae cydraddoldeb yn ei olygu i ti? Sut gallem ni hyrwyddo cydraddoldeb? Ydy hyn yn fater pwysig neu'n rhywbeth nad oes angen poeni amdano?

Tweetia dy feddyliau i @YACymru a dilyna ni am y newyddion Llysgenhadon Ifanc diweddaraf.

Darganfydda’ mwy am Lysgenhadon Ifanc

Darllena ymchwil Chwaraeon Cymru a Stonewall Cymru ar gyfranogaeth LHD

Gwybodaeth – Bod Mewn Perthynas

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.