Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwna CLIC yn "CLIC ti"

Dewisa o un o’r themâu mae ein haelodau wedi’i greu, neu pam ddim cyflwyno un dy hun?

Ddim yn ddyluniwr graffeg? Paid poeni! Gall gyflwyno unrhyw beth o luniau wedi’i wneud gyda llaw, i gollage, i rywbeth ti’n rhoi gyda’i gilydd ar ‘paint’.

Yr unig beth sydd yn rhaid i ti ei wneud, i adael dy farc ar CLIC ,ydy dilyn y camau hawdd hyn!

  1. Cadw dy greadigaeth orffenedig fel ffeil .jpg neu .gif. Ni dderbynnir unrhyw estyniad ffeil arall
  2. Cer i adran Themâu o’r ddewislen, a dewisa "cyflwyna thema"
  3. Dewisa deitl perthnasol i dy thema newydd e.e. Thema cath Amy
  4. Dewisa liw cefndir drwy ddefnyddio’r detholwr lliw, os wyt ti’n gwybod cod hex lliw ti’n hoffi yna gall ei roi mewn oddi tanno. Mae nifer o wefannau yn cynnig codau hex os byddai’n well gen ti i ddewis un dy hun y ffordd honno
  5. Llwytho dy lun i’r wefan, cofia bod rhaid iddo gael ei gadw fel .gif neu .jpg!
  6. 1.Nawr mae’n rhaid i ti ddewis y ffordd hoffet i dy gefndir ymddangos

Ti nawr yn cael 8 dewis, piga’r un ti’n meddwl sydd yn briodol:

  • Cefndiroedd teils, llun llai sydd yn ailadrodd ei hun. Gall ddewis y ffordd mae’n ailadrodd hefyd.
  • Un llun mawr, dewis un o’r 3 opsiynau cyntaf.

Cofia ddarllen drwy’r telerau ac amodau cyn clicio cyflwyno.

Unwaith mae’n cael ei gyflwyno byddet yn derbyn e-bost cadarnhad yn gadael i ti wybod ein bod wedi derbyn dy greadigaeth. Bydd y llun yn cael ei edrych ar, ac os yw’n addas yn cael ei ychwanegu i’r wefan.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50