Cyflwyno digwyddiadau - Cwestiynau Cyffredin
Beth yw pwrpas y Calendr Digwyddiadau?
Ei bwrpas yw helpu ti a) ddarganfod beth sy´n digwydd yn ac o amgylch Cymru, gan gynnwys manylion a dolennau penodol, a b) rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiad, gweithdy, gig, sioe, cyngerdd, golchi ceir er mwyn elusen neu unrhyw beth yr wyt ti´n ymwneud ag ef neu yn gwybod amdano.
Sut y gallaf gyflwyno digwyddiad?
Ar y dudalen digwyddiadau ceir blwch ar y dde gyda´r geiriau CYMERA RAN´ arno. Oddi tano gall ddewis Cyflwyno Digwyddiad´ a fydd yn mynd â thi drwy broses syml sy´n gofyn pa mor aml y cynhelir y digwyddiad (unigryw, bob wythnos ac ati) a dilynir hyn gan fanylion penodol fel beth, pryd, ble, faint a chyfyngiadau oed.
Beth sy´n digwydd wedyn?
Bydd aelod o´r tîm golygyddol yn ei wirio, yn ychwanegu unrhyw beth a gredant sydd ar goll a´i bostio yn fyw ar y Calendr Digwyddiadau. Caniatâ 24 awr i dy ddigwyddiad ymddangos yn fyw.
Beth os oes gennyf broblem yn llwytho?
Am gymorth gyda chyflwyno digwyddiad, cyflwyna docyn cymorth.