Ymgynghoriad ar �500 mil o arbedion i wasanaethau cefnogi plant a phobl ifanc
Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 10/03/2016 at 16:33
- Tagged as Climate, Education, Topical
Ymgynghoriad ar �500 mil o arbedion i wasanaethau cefnogi plant a phobl ifanc.
Mae defnyddwyr o ystod o wasanaethau plant a phobl ifanc Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad am y newidiadau arfaethedig i'r Cyfoethogi Addysg presennol a darpariaeth ymyriadau sy'n cynnwys Gwaith Cymdeithasol Addysg, Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae a Gwasanaethau Iechyd a Lles pobl ifanc.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dilyn gostyngiad yn y gyllideb o �500,000 a chynnig i ail-lunio gwasanaethau i ddelio a'r arbediad hwn. Mae'r cynigion yn cynnwys cau cyfleusterau addysg awyr agored yn Nantyr, rhoi'r gorau i ddarparu'r model presennol o wasanaethau ieuenctid cymunedol a chau'r caffi yng Nghanolfan Adnoddau Llai. Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys integreiddio timau'n agosach, datblygu timau newydd megis Thim Datblygu Ieuenctid a Thim Adferol a Chymunedol, gyda ffocws llawer cliriach ar gyflenwi gwasanaethau lle mae eu hangen fwyaf. Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn cael effaith ar lefelau staffio, a rhagwelir diswyddiadau, ond gwneir pob ymdrech i liniaru cymaint a phosibl.
Dywedodd y Cyng. Ron Prince, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid ac Atal Tlodi:
"Mae hwn yn gyfnod anodd ac mae'n rhaid torri �500 mil o'r gwasanaeth hwn yn dilyn y broses ymgynghori ynghylch y gyllideb a gosod y gyllideb yn ddiweddar. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar sut y gellir gwneud yr arbedion hyn a byddwn yn annog cymaint o bobl a phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Bydd newidiadau yn y gwasanaeth yn dilyn yr ymgynghoriad a fydd yn dechrau cael ei weithredu yn y flwyddyn gyllideb 2016/17. Mae'r staff wedi cael gwybod am y newidiadau a byddant yn cael eu hysbysu drwy gydol y cyfnod ymgynghori."
Mae'r ymgynghoriad ar gael ar
http://tinyurl.com/z4z8kfq
a gellir ymateb tan 13 Ebrill.