Ydych chi’n Ofalwr Ifanc?
Ydych chi’n Ofalwr Ifanc?
Gofynnir i Ofalwyr Ifanc yn Wrecsam gymryd rhan mewn arolwg ar-lein i helpu i wella’r gwasanaethau a’r cymorth maen nhw’n ei dderbyn.
Mae gofalwyr ifanc yn blant neu’n bobl ifanc sy’n gofalu am berthynas sydd ag anabledd neu salwch ac sy’n “fwy na mab, merch, brawd neu chwaer”.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos fod bron i chwarter allan o filiwn o blant oedran ysgol yng Nghymru a Lloegr, yn gofalu am berthynas iddynt. Yn Wrecsam, mae dros 450 o ofalwyr ifanc. (Cyfrifiad 2001)
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal mewn partneriaeth a Chyngor Sir Conwy a Dinbych.
Mae’r arolwg ar gael trwy’r ddolen ganlynol:
http://www.surveymonkey.com/s/GDN6K5X
www.cliconline.co.uk/resources/Carers_Poster_cym.pdf