Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Ydych Chi Dan Bwysau?

Posted by BookWorm18 from Wrexham - Published on 17/09/2012 at 12:57
0 comments » - Tagged as People, Alcohol

'Pam lai, dim ond un ddiod fach...'
Neu lymaid hyd yn oed?'
'Fe bryna’ i un iti!'
'Ond rwyt ti mewn parti!'

Rwyf wedi colli cyfrif faint o weithiau y mae sylwadau, cynigion ac ymadroddion fel y rhain wedi cael eu hanelu ataf i, bob tro y byddaf yn mynd allan gyda’m ffrindiau, ni waeth beth ydyw, parti pen-blwydd aruthrol neu gr?p o bobl yn dod at ei gilydd.  Rwyf wedi llunio fy ateb parod fy hun ar gyfer achlysuron fel hyn, mae’n adwaith naturiol bron, pryd bynnag y byddaf yn clywed unrhyw un o’r uchod neu pan fydd rhywun yn estyn gwydr neu botel imi; byddaf yn gwenu, yn ysgwyd fy mhen ac yn dweud, “Dwi’n iawn, diolch.”

Yn l pob golwg, ni waeth pa mor hir neu fyr yw’r rhestr wahodd, y dyddiau hyn mae rhywun arall wastad yn cael gwahoddiad i ymuno byd diwylliant yr arddegau –
Alcohol.

Mae yfed ynfyd, damweiniau ffordd, pobl yn cwffio ac anafiadau yn faterion erchyll yr ydym yn clywed amdanynt trwy’r amser.  Fodd bynnag nid yr effeithiau hirdymor na’r peryglon posibl a allai ddod yn sgil alcohol yw’r pethau y dymunaf sn amdanynt – ond yn hytrach, y pwysau.

Erbyn hyn mae yfed alcohol bron bod yn ddefod newid byd wrth i bobl ifanc ddod yn oedolion, er bod llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn dewis dilyn y drefn hon pan maent yn ieuengach fyth.  Y dyddiau hyn y drefn arferol yw mynd ati i yfed a meddwi; yn wir y teimlad a gewch yw mai PEIDIO AG yfed pan ydych yn eich arddegau yw’r hyn sy’n eich gwneud yn unigolyn abnormal, diflas, sy’n torri ar hwyl pawb arall.

Fi, wastad, yw’r person ifanc hwnnw yn ei arddegau ac weithiau mae’n gwneud imi deimlo mai fi yw’r unig un sy’n ymddwyn fel hyn.  Rwyf wedi hen arfer gwrthod derbyn diodydd a cheisio cyfiawnhau fy hun trwy ddweud, “ ’Does dim rhaid imi gael alcohol er mwyn cael hwyl!” ond mae’n ddiflas dweud hyn trwy’r amser.

Nid wyf eto yn hollol glir fy meddwl ynghylch pam nad wyf yn cymryd rhan mewn yfed, sydd i bob golwg yn rhan o ddiwylliant arferol yr arddegau; efallai fy mod yn teimlo fel hyn am fy mod wedi sylwi ar ddiwylliant Ffrainc, neu am nad wyf yn hoffi’r blas neu am nad wyf yn DYMUNO yfed.  Pryd bynnag y byddaf yn dewis yfed alcohol neu beidio, byddaf yn cael cymysgedd o deimladau - dryswch, ofn a derbyn pwy ydwyf.

Fi yw’r person sy’n mynd i yrru’r car ar ddiwedd y noson ac rwy’n berffaith fodlon gwneud hynny.  Rwyf hefyd yn fodlon dawnsio photelaid o dd?r yn fy llaw ac nid oes arnaf eisiau diod ac nid wyf angen un.  Ond a fydd pobl fyth yn gwir ddeall hynny?

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.