Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

WYTHNOS YMWYBYDDIAETH YNGHYLCH ANHWYLDERAU BWYTA

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 08/02/2013 at 17:13
0 comments » - Tagged as Health, Topical

Be’ ydy Anhwylder Bwyta?

Anhwylder bwyta ydy obsesiwn efo bwyd a phwysau sy’n niwedio lles unigolyn.  Er bod pob un ohonom ni’n poeni am ein pwysau weithiau, mae pobl sy’n dioddef o anhwylder bwyta yn mynd i eithafion i osgoi ennill pwysau.  


Be’ ydy’r Anhwylderau Bwyta mwyaf cyffredin?

Anorecsia

Mae gan bobl ag anorecsia obsesiwn efo bod yn denau.  Dydyn nhw ddim eisiau bwyta, ac mae ganddyn nhw ofn magu pwysau.  Maen nhw’n poeni am faint o galorïau maen nhw’n eu cael neu faint o fraster sydd yn eu bwyd drwy’r amser.  Mae rhai yn cymryd tabledi colli pwysau, tabledi carthydd neu dabledi atal dargadwedd dŵr.  Efallai eu bod yn gwneud ymarfer corff gormodol.  Yn arferol mae pobl ag anorecsia yn meddwl eu bod nhw’n dew, er eu bod nhw’n denau iawn mewn gwirionedd.  Fe allan nhw fynd mor denau fel eu bod yn edrych fel petaen nhw’n sâl. 

Bwlimia

Bwlimia ydy bwyta llawer o fwyd ar yr un pryd, ac yna chwydu neu ddefnyddio tabledi carthydd i gael gwared o’r bwyd o’r corff (y cyfeirir ato fel ‘carthu’).  Ar ôl sesiwn gorfwyta mae rhai o’r unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr yn ymprydio (ddim yn bwyta) ac yn gwneud gormodedd o ymarfer corff i’w hatal rhag magu pwysau.  Gall pobl â bwlimia ddefnyddio tabledi carthydd neu dabledi colli pwysau i ‘reoli’ eu pwysau.  Yn aml mae pobl â bwlimia yn ceisio cuddio eu sesiynau gorfwyta a’r carthu dilynol.  Efallai eu bod nhw’n cuddio bwyd ar gyfer sesiwn gorfwyta.  Yn arferol mae pobl â bwlimia yn agos at bwysau cyffredin, ond maen nhw’n gallu magu pwysau a cholli pwysau bob yn ail.


Be’ sy’n achosi anhwylderau bwyta?

Dydy doctoriaid ddim yn gwybod yn union be sy’n achosi hyn.  Mae’r achosion posibl yn cynnwys teimlo dan bwysau neu wedi ypsetio am rywbeth yn eich bywyd, neu deimlo fel bod rhaid i chi ‘reoli’ eich corff.  Mae cymdeithas yn annog pobl i fod yn fain.  Gall hyn gyfrannu hefyd. 


Be ydy effeithiau Anhwylderau Bwyta?

Mae anhwylder bwyta yn salwch meddygol difrifol.  Yn aml maen nhw’n cyd-fynd â phroblemau eraill fel strés, pryder, iselder ysbryd a cham-drin sylweddau.  Mae pobl ag anhwylderau bwyta yn medru dioddef o broblemau iechyd difrifol hefyd, fel cyflwr ar y galon neu fethiant yr arennau.  Mae’n bosib nad oes gan unigolion sy’n pwyso o leiaf 15% yn llai na’r pwysau arferol ar gyfer eu taldra ddigon o fraster corff i gadw eu horganau a rhannau eraill o’u corff yn iach.  Mewn achosion difrifol mae anhwylderau bwyta yn medru arwain at ddiffyg maeth difrifol a marwolaeth. 


Be’ ydy rhai o’r arwyddion rhybudd anhwylder bwyta?

Mae’r tri pheth isod yn arwyddion rhybudd posib o anorecsia a bwlimia: 

• Pryder annaturiol am eu pwysau (hyd yn oed os nad yw’r unigolyn dros ei bwysau)
• Obsesiwn efo calorïau, braster, gramau a bwydydd 
• Defnyddio meddyginiaethau i sicrhau peidio â magu pwysau (tabledi colli pwysau, tabledi carthydd, tabledi atal dargadwedd dŵr)

Gallai fod yn anoddach sylwi ar yr arwyddion rhybudd mwy difrifol gan fod pobl ag anhwylder bwyta yn ceisio cuddio’r cyflwr a chadw popeth yn gyfrinach.  Cadwch eich llygaid ar agor am yr arwyddion hyn: 

• Chwydu ar ôl prydau bwyd 
• Gwrthod bwyta neu ddweud celwydd am faint maen nhw wedi’i fwyta 
• Llewygu 
• Ymarfer corff gormodol 
• Dim misglwyf 
• Pryder cynyddol am eu pwysau 
• Creithiau neu galedennau ar gygnau’r llaw (yn deillio o orfodi eu hunain i chwydu)
• Gwadu bod unrhyw beth yn bod


Ydy’n bosib trin anhwylderau bwyta?

Ydy.  I’r rhai sy’n dioddef o anorecsia, y cam cyntaf ydy mynd yn ôl i bwysau normal.  Os ydych chi’n dioddef o ddiffyg maeth neu’n denau iawn efallai y cewch eich cadw yn yr ysbyty.  Mwy na thebyg y bydd eich meddyg am i chi weld dietegydd i ddysgu sut i ddewis bwydydd iach a bwyta ar adegau rheolaidd.  Mae cwnsela unigol a theuluol (siarad am eich teimladau ynghylch eich pwysau a’r problemau yn eich bywyd) yn ddefnyddiol i’r rhai ag anorecsia a bwlimia. 


Lle fedra i gael cyngor a gwybodaeth?  

Gan eich meddyg teulu neu’r asiantaeth isod:

beat (Eating Disorders Association yn flaenorol)  Gwefan: www.b-eat.co.uk
E-bost: help@b-eat.co.uk

Llinell gymorth i oedolion: 0845 634 1414  Dydd Llun i ddydd Gwener,
10.30am tan 8.30pm
Dydd Sadwrn, 1.00pm tan 4.30pm

Llinell gymorth i bobl ifanc (i blant a phobl ifanc
dan 18 oed): 08456 347650    Dydd Llun i ddydd Gwener,
4.30pm tan 8.30pm
Dydd Sadwrn, 1.00pm tan 4.30pm

E-bost llinell ieuenctid: fyp@b-eat.co.uk

Gwasanaeth tecst llinell ieuenctid: 07786 201820

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.