Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

WYTHNOS IECHYD RHYWIOL

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 17/09/2012 at 12:15
0 comments » - Tagged as Health

Beth yw’r Wythnos Iechyd Rhywiol?

 

  • Pwrpas Wythnos Iechyd Rhywiol y Gymdeithas Cynllunio Teulu yw gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o faterion iechyd rhywiol ac mae’n canolbwyntio ar wahanol bwnc bob blwyddyn.

Er enghraifft, yn 2009, roedd Wythnos Iechyd Rhywiol y Gymdeithas Cynllunio Teulu’n canolbwyntio ar ryw ac alcohol. Yn 2010 canolbwyntiodd ar iechyd rhywiol i bobl dros 50 ac yn 2011 y pwnc dan sylw oedd ‘Ffeithiau Bywyd, sut a phryd i siarad gyda’ch plant am oed aeddfedrwydd, perthnasoedd a rhyw’. Yn 2012, mae’r Gymdeithas Cynllunio Teulu a Brook yn cydweithio ar yr ymgyrch ‘XES We can’t go backwards’ - oherwydd mewn rhai ardaloedd drwy Brydain gyfan mae pobl yn methu cael gafael ar atalwyr cenhedlu, dydy’r ystod gyfan o ddewisiadau atal cenhedlu ddim wedi’i gynnig i bobl ac mae gwasanaethau atal cenhedlu ac iechyd meddwl yn cau neu’n agored am lai o amser.

  • Mae un ymhob saith o bobl ifanc yn cyfaddef eu bod wedi cael rhyw heb gadw’n ddiogel ar l yfed alcohol.
  • Mae gwaith ymchwil wedi dangos cysylltiad rhwng defnyddio cyffuriau ac alcohol a chael rhyw heb amddiffyniad. Alcohol a nodwyd gan 20% o ddynion ifanc a 13% o ferched ifanc 15-19 oed fel y brif reswm am eu cyfathrach rywiol gyntaf. Po ieuengaf yw’r ferch, y mwyaf tebygol yw hi bod alcohol yn gysylltiedig ’r rhyw.
  • Mae pobl ifanc ddwywaith mor debygol o beidio defnyddio atalwyr cenhedlu os nodir alcohol fel y brif reswm am gael rhyw yn l arolwg i Sianel 4, ac mae dynion a merched ifanc yn fwy tebygol o ddifaru cael rhyw lle mae alcohol yn ffactor.

 

 

Pam fod hyn yn bwysig?

 

  • Gan y DU mae’r nifer uchaf yng Ngorllewin Ewrop o enedigaethau ac erthyliadau ymysg pobl yn eu harddegau.
  • Yn 2005, roedd 2504 o bobl ifanc dan 18 a 455 o bobl ifanc dan 16 oed wedi dod yn feichiog yng Nghymru.
  • Cafodd bron i drydedd ran o ddynion a chwarter y merched 16-19 oed gyfathrach heterorywiol cyn iddynt fod yn 16 oed.
  • Yn 2006 cafwyd 376,508 diagnosis o heintiau newydd a drosglwyddir yn rhywiol yn y DU, sef cynnydd o 63% ers 1997.
  • Mewn clinigau GUM yn y DU, chlamydia gwenerol yw’r haint mwyaf cyffredin a drosglwyddir yn rhywiol a welwyd. Cafwyd 113,585 diagnosis yn 2006.
  • O ganlyniad, mae angen i bobl o bob oedran allu cael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol lle bynnag y maent yn byw.

 

Beth allech chi ei wneud?

 

  • Canfod y ffeithiau am ryw, fel y gallwch gymryd y cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau deallus.
  • Gohirio cael rhyw nes byddwch yn barod, ond bod yn ddiogel pan fyddwch yn cychwyn.
  • Defnyddio condom bob amser.
  • Eich parchu eich hun a’ch partner(iaid) a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun a’ch iechyd rhywiol eich hun.

 

 

Ymhle alla i gael gwybodaeth a chyngor?  

 

Gallwch gael y rhain gan eich meddyg teulu neu glinig cynllunio teulu lleol neu gan y dilynol:

 

www.fpa.org.uk                                                   llinell gymorth fpa 0845 122 8690

                                                                             (Dydd Llun i Gwener 9am – 6pm)

 

www.brook.org.uk                                              0800 0185 023

 

Gwasanaeth Iechyd Rhywiol Ysbyty Maelor Wrecsam       01978 727197

(profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol)

 

Llinell Wybodaeth Iechyd Rhywiol                           0800 567 123

 

www.ruthinking.co.uk                                                Sexwise 0800 28 29 30

 

www.bpas.org                                                           0845 730 40 30

 

www.mariestopes.org.uk                                         0845 300 8090

 

Y Clinig ‘Cyswllt’ – wedi’i seilio yn INFO                01978 358900

Llun/Mer/Gwe 3-5.30pm

[2 North Arcade, Stryt Gaer, Wcsm]                                www.youngwrexham.co.uk

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.