Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Wedi pacio fy mlanced picnic

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 01/09/2016 at 12:03
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, Music, People, Topical

Wedi pacio fy mlanced picnic, rhywbeth i fwyta ac i yfed (eleni roedd cyfyngiad ar faint o alcohol a ganiatawyd ar y safle), cerddais y daith fer i ‘O dan y Bwâu’, gan gyrraedd y digwyddiad dan ei sang am 8pm.
Eleni hefyd, gwelwyd gostyngiad yn y nifer o docynnau oedd ar gael, roedd hyn yn golygu bod mwy o le i deuluoedd i ymgasglu ar y cae chwarae a gwneud eu hunain yn gyfforddus ar gyfer y noson (mor gyfforddus â phosib yn yr awyr agored). Hefyd, roedd yn golygu o’r diwedd nid oedd unrhyw giwiau i'r toiledau, sydd yn bwysig iawn gan fod y digwyddiad yn para o 7pm tan 11pm.
Roedd y sioe tân gwyllt, fel bob tro, yn anhygoel. Eleni, roedd y digwyddiad wedi cael ei gyflwyno yn ingol er cof am ddau ddyn ifanc a fu farw yn yr ardal.
Ond i mi, roedd y digwyddiad yr un fath â phob blwyddyn arall rwyf wedi mynychu, gyda’r un bandiau a stondinau. Roeddwn wedi gobeithio y byddai rhywbeth newydd wedi cael ei ychwanegu, i fywiogi’r un drefn.....  Felly roeddwn ychydig yn siomedig, ac rwyf wedi gado i arbed fy arian y flwyddyn nesaf a mwynhau’r profiad...... o fy ngardd.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.