Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Stereophonics yn dod i Wrecsam

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 28/06/2016 at 15:42
0 comments » - Tagged as Festivals, Music, People, Stage, Topical

Wyt ti’n un o’r cannoedd o bobl sydd â thocyn i gig y Stereophonics yn y Cae Ras? Ai dy gig gyntaf di yw hon?
Bydd awyrgylch anhygoel yno, a cherddoriaeth anhygoel, yn sicr. Mae Stereophonics yn un o’m hoff fandiau i; yn Gymry ac yn ddiddanwyr gwych.
Mae Wrecsam Ifanc wedi casglu deg awgrym i’w cofio wrth fynd i gig, nid yn unig er mwyn sicrhau dy fod yn saff, ond er mwyn sicrhau dy fod yn cael amser gwych.
Deg Awgrym i’w Cofio
1. Ble mae dy docynnau di?  Paid ag anghofio dy docynnau; mae hyn yn gyngor gwych, oherwydd mi golli di’r holl beth os nad yw dy docynnau gennyt ti.

2. Trefna ffordd o fynd adref.  Mi wn i fod hyn yn od fel yr ail awgrym, ond bydd hi’n wallgof yno wrth adael y Cae Ras, felly gofynna i'r sawl sy'n mynd â thi adref dy godi o rywle cyfagos - rhywle fel y Premier Inn neu'r orsaf drenau, er enghraifft.

3. Gwna'n siŵr fod batri unrhyw ddyfais cyfryngau y byddi'n mynd ag ef gyda thi: ffôn, camera, yn llawn.  Rwyt ti bron a thynnu’r llun gorau erioed ac mae batri dy gamera di'n darfod. Am siom!

4. Cyrhaedda’n gynnar.  ’Does dim sy'n waeth na chyrraedd yn hwyr a rhuthro i dy sedd.

5. Bydd yn barod am y tywydd.   Yn Wrecsam rwyt ti ac, er ei bod hi’n fis Gorffennaf, gallai fwrw glaw neu fod yn ferwedig o boeth, felly cofia eli haul neu gôt law ysgafn.

6. Paid â gadael dy ffrindiau.  Rwyt ti’n sicr yn fwy diogel mewn criw, a bydd cannoedd o bobl yno felly bydd yn hawdd i ti gael dy wahanu oddi wrthyn nhw.

7. Gwisga esgidiau cyfforddus.  Mi wn i fod hyn yn swnio'n ddiflas, ond fe fyddi di ar dy draed yn dawnsio am rai oriau a ’does dim sy’n waeth na thraed yn brifo.

8. Cadwa lygad ar dy eiddo gwerthfawr.  Mae hwn yn mynd i fod yn ddigwyddiad anhygoel, ond efallai y bydd rhai'n ei weld yn gyfle i chwilio drwy bocedi a phyrsiau!

9. Bydd yn ddoeth wrth yfed.  Os wyt ti’n mynd i yfed, yna gwna hynny’n synhwyrol. Efallai na chei fynd i mewn os wyt ti wedi yfed gormod, efallai na wnei di fwynhau'r digwyddiad ac mi allet ti ei ddifetha i bobl eraill.

10. Mwynha dy hun.  Mae hwn yn mynd i fod yn ddigwyddiad anhygoel!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.