Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Penwythnos yn Llangrannog

Posted by wrexhamrule from Wrexham - Published on 16/10/2012 at 15:06
0 comments » - Tagged as People, School Holiday Activities, Sport & Leisure

Roedd hi’n ddydd Gwener, 28 Medi, ac yn anarferol iawn roeddwn i wedi codi’n gynnar. Roedd yna reswm pam fy mod i wedi codi mor gynnar, oherwydd ei bod yn un o fy hoff adegau yn y flwyddyn, penwythnos preswyl CLlC arall. Pan wnes i ddeffro cefais neges gan fy ffrind Rob a oedd am wneud yn siwr fy mod i wedi codi a gofyn faint o’r gloch roedden ni’n cyfarfod. Roedd hi’n 11 o’r gloch ac fe wnes i gwrdd Rob yn y siop leol er mwyn i ni fedru prynu fferins a diodydd ar gyfer y daith gan ein bod ni’n gwybod y byddai’n daith hir, yna roedd hi’n amser i ni fynd am y bws.   

Ar l i mi fynd ar y bws roeddwn i’n hapus iawn oherwydd fy mod i’n cael gwled fy ffrindiau CLIC. Fe es i du l y bws ac ymuno nhw ac fe gawson ni sgwrs ddifyr. Roedd y daith yn hir ond roedd yn teimlo’n fyrrach gan ein bod ni wedi stopio deirgwaith. Pan wnaethon ni gyrraedd Llangrannog o’r diwedd fe gawson ni gwrdd ’n ffrindiau o dde Cymru a mynd ’n bagiau i’n ystafell. Yn dilyn hynny fe wnaethon ni fynd trwy reolau’r penwythnos er mwyn gwneud yn siwr nad oedden ni’n torri’r rheolau. Roedd nos Wener yn noson hurt gan ein bod ni’n dal i fyny efo ffrindiau hen a newydd. Roeddwn i wedi blino ar y noson gyntaf felly fe es i ngwely yn gymharol gynnar am hanner nos. 

Deffroais yn gynnar fore Sadwrn gan fy mod i eisiau bod yn un o’r rhai cyntaf yn y gawod cyn brecwast. Wnaeth y cynllun yna ddim gweithio’n dda iawn oherwydd, pan wnes i agor fy nghs, fe wnes i sylweddoli fy mod i wedi rhoi siamp? a hylif cawod i mewn ond dim lliain, felly wnes i ddim mynd am gawod. Fe es i nl i’r gwely a chysgu am hanner awr arall cyn gwneud fy hun yn barod am frecwast. Ar l i ni gael brecwast fe wnaethon ni dreulio’r bore yn gweithio ar gael cymhwyster Ispect. Yna fe gawson ni ginio a pharatoi ar gyfer gweithgareddau’r prynhawn, sef sgo a dringo creigiau. Ar l y dringo fe es i nl i’r llety a chael gwybod fod ganddyn nhw rywfaint o lieiniau sbr, felly fe ges i gawod cyn gweithgareddau’r nos. Yna roedd hi’n amser te ac ar l te fe wnaethon ni fwy o hyfforddiant Ispect. Yna daeth fy hoff ran o’r penwythnos, ‘CLICS got talent’ lle mae unrhyw un sy’n meddwl bod ganddyn nhw ddawn yn dangos eu doniau. Wnes i ddim cymryd rhan fy hun, ond dwi’n hoffi gwylio a gweld talentau pawb arall. Ar l ‘CLICS got talent’ dechreuodd y disgo ac fe wnes i sgwrsio efo fy ffrindiau a dawnsio. Roedd hi tua 1 o’r gloch y bore erbyn i mi gyrraedd fy ystafell, ac fe fues i’n siarad efo ffrindiau oedd yn rhannu stafell efo fi tan hanner awr wedi un.  

Y peth cyntaf wnes i fore dydd Sul oedd cael cawod a gwneud fy hun yn barod ar gyfer brecwast. Ar l brecwast roedd gen i’r rhan olaf o’r hyfforddiant Ispect i’w wneud. Ar l cwblhau’r hyfforddiant fe es i gasglu fy ‘hoodie’ am gwblhau’r cwrs. Ar l cael y crys chwys fe dynnwyd llun y gr?p, ac yna aethon ni i bacio ein cesys. Yn dilyn hynny roedd un o ddarnau gwaethaf y penwythnos, sef dweud ffarwel wrth fy ffrindiau o dde Cymru gan ei bod yn amser i ni fynd adre. Fe fuon ni’n trafod ein barn am y penwythnos ar y bws. Ac yna, cyn i mi sylweddoli bron, roeddwn i adre ac yn dweud hwyl fawr wrth fy ffrindiau o ogledd Cymru. 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.