Penderfyniadau Anodd 2017-18
Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn parhau i wynebu gostyngiadau yn y cyllid a roddir iddynt gan y llywodraeth genedlaethol; sy'n golygu ein bod ni i gyd yn cael llai o arian i'w wario flwyddyn ar �l blwyddyn. I Gyngor Wrecsam mae hyn yn golygu y bydd gennym ni oddeutu �5 miliwn yn llai i'w wario dros y flwyddyn nesaf; ac rydym ni eisoes wedi arbed �25 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf.
Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau a amlinellir yng Nghynllun y Cyngor. Rydym ni�n parhau i chwilio am ffyrdd i wella ein gwasanaethau, gan eu gwneud yn fwy effeithlon er mwyn blaenoriaethu, cyhyd ag y bo modd, ein gwasanaethau rheng flaen. Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys moderneiddio'r ffordd rydym ni�n gweithio ac adolygu lefelau a strwythurau staffio i leihau costau ochr yn ochr � darparu ein gwasanaethau a ail-luniwyd yn effeithiol. Rydym ni hefyd yn ymrwymo i sicrhau ein bod ni�n gallu ateb eich ymholiadau ar y pwynt cyswllt cyntaf ac i gynyddu ein gwasanaethau ar-lein (yn unol ��r byd o�n cwmpas).
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydych chi wedi rhoi gwybod i ni beth ydi�ch barn am ein cynigion ar gyfer arbedion, drwy ein hymgynghoriadau cyllideb blynyddol (gyda mwy na 1,700 o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad y llynedd). Mae eich adborth, eich syniadau a'ch awgrymiadau wedi bod yn sail i�r penderfyniadau a wneir am y gyllideb rydym ni wedi ei phennu pob blwyddyn, ac maen nhw hefyd wedi ein helpu i ganfod arbedion y gallwn ni eu gwneud yn y dyfodol ac i weddnewid y ffordd rydym ni�n gweithio.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y cynigion rydym wedi eu gwneud er mwyn arbed arian a chynhyrchu incwm, drwy gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein. (Mae cop�au papur o'r arolwg ar gael yn nerbynfa Neuadd y Dref, Galw Wrecsam a Llyfrgell Wrecsam).
http://www.wrecsam.gov.uk/ymgynghoriadcyllideb
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 26 Hydref 2016.
Bydd yr ymatebion a dderbyniwn yn cael eu hystyried gan Aelodau'r Cyngor cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniadau terfynol ym mis Chwefror 2017.
Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth, eich amser a�ch diddordeb.