Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Penderfyniadau Anodd 2016-17

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 16/09/2015 at 12:56
0 comments » - Tagged as Climate, Education, Environment, Topical

Mae Awdurdodau lleol yn parhau i wynebu gostyngiad mewn cyllid gan Lywodraeth ganolog, sy'n golygu bod yn rhaid i Gynghorau barhau i ddod o hyd i ffyrdd o weithredu a darparu gwasanaethau gyda chyllidebau llawer llai.  Yn Wrecsam rydym yn amcangyfrif y bydd angen i ni arbed £45miliwn ymhellach dros y tair blynedd nesaf.  Mae hyn yn ychwanegol at y £23.2million rydym eisoes wedi ei arbed dros y tair blynedd diwethaf.

Er ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu gwasanaethau, mae’r angen parhaus i sicrhau arbedion sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn golygu bod rhaid i ni wneud penderfyniadau anoddach ac anoddach.

Y llynedd, cymerodd dros fil ohonoch chi ran yn ein hymgynghoriad ar y gyllideb, ac mae'n amser i chi ddweud wrthym ni beth yw eich barn am y cynigion rydym yn gwneud am sut i wneud arbedion, a chynhyrchu mwy o incwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17 .

Mae’r llyfryn ‘Penderfyniadau Anodd 2016-17’ yn cynnwys gwybodaeth fanylach am y broses o ail-lunio gwasanaethau, ac am y cynigion eu hunain.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch ddweud wrthym beth yw eich barn am ein cynigion.
1. Llenwch yr arolwg - naill ai ar-lein neu ar fersiwn papur yn dweud wrthym i ba raddau rydych yn cytuno â'r cynigion rydym yn eu gwneud.
www.wrecsam.gov.uk/ymgynghoriadcyllideb
2. Byddwn yn cynnal ymgynghoriadau mwy manwl gyda defnyddwyr gwasanaeth ar gyfer rhai o'r cynigion hyn - a fydd hefyd yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
3. Gallech hefyd ysgrifennu atom yn 'Dywedwch Eich Barn'.  Anecs 3ydd Llawr. Neuadd y Dref. Wrecsam. LL11 1AY
4.  Neu anfonwch e-bost atom i telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk (dylid nodi ‘Penderfyniadau Anodd’ ar eich gohebiaeth)

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad yw dydd Mawrth 27 Hydref 2015.

Sylwch, er y byddwn yn croesawu ac yn rhoi ystyriaeth i farn pawb, nid oes modd i ni ymateb i gwestiynau neu sylwadau unigol a anfonir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn. 


Diolch i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn - rydym yn gwerthfawrogi eich barn.

 

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.