Mae gan bob un ohonom bethau yr ydym yn eu caru, pethau'r ydym yn credu na allwn weithredu’n iawn hebddynt – pethau sy’n gwneud ein
Mae gan bob un ohonom bethau yr ydym yn eu caru, pethau'r ydym yn credu na allwn weithredu’n iawn hebddynt – pethau sy’n gwneud ein bywydau yn well.
Rwy’n eithaf hyderus bod un o'r pethau hyn yr un fath ar gyfer bron iawn pob un person yn y byd – cerddoriaeth.
Mae gan gerddoriaeth y gallu i newid ein tymer, i'n hatgoffa o bethau yr oeddem wedi’u hanghofio, i fynd â ni ar daith.
Mae cerddoriaeth hefyd yn uno pobl mewn nifer o ddulliau gwahanol: Mae’n eu darparu â chyfleoedd i gysylltu, i gyfarfod pobl gyda diddordebau tebyg ac i gydweithio i gynhyrchu rhywbeth trawiadol, yn hybu ein gobeithion, neu’n rywbeth hollol arbennig.
Yr enghraifft ddiweddar gorau y gallaf ei roi yw cyngerdd yn Eglwys St Giles, Wrecsam, a gynhaliwyd Ddydd Llun 23 Rhagfyr.
Cyngerdd blynyddol Cerddorfa Ieuenctid Sir Wrecsam ydoedd, gyda dros 50 o bobl ifanc yn uno i gyflwyno noson o gerddoriaeth glasurol a charolau anhygoel.
Roedd y ffaith ei fod ychydig ddiwrnodau cyn y Nadolig yn fwy arbennig, gyda thymer Nadoligaidd pawb yn cael ei hybu gan ddarnau megis Skater’s Waltz gan Waldteufel. Roedd y cyngerdd o ganlyniad i gwrs cerddoriaeth 4 diwrnod, wedi’i berfformio gan grŵp o gerddorion ifanc gwych oedd heb berfformio gyda’i gilydd fel cerddorfa lawn o’r blaen.
Y ddau beth yr oedd ganddynt yn gyffredin oedd bod ganddynt dalent cerddorol gwych, a'u bod yn cael eu dysgu neu wedi’u dysgu gan diwtoriaid anhygoel Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir Wrecsam.
Nid uno’r cerddorion ifanc oedd unig fwriad y cyngerdd - roedd hefyd yn rhoi cyfle i eglwys lawn gael clywed darnau ysbrydol megis Sleigh Reid a charolau poblogaidd megis ‘O Deuwch Ffyddloniaid’. Roedd yn noson wych ac yn dangos pŵer cerddoriaeth i uno pobl o bob oedran gyda’i gilydd.
Mae’n wir y gallwch fynychu cyngherddau carolau'r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol neu gerddorfa genedlaethol, ond dyna’r pwynt:Roedd gan yr holl gerddorion eithriadol ledled y byd sy’n diddanu miloedd fan cychwyn hefyd – nid oedd modd iddynt gamu i ganol cerddorfa symffoni heb waith caled.
Yn ddiamheuaeth roeddent wedi cael y cyfle i ddysgu’r feiolin neu'r utgorn yn yr ysgol neu wedi ymuno â cherddorfa leol, wedi derbyn gwersi ac arweiniad er mwyn mwynhau a gwella. Dyna sefyllfa cerddorion ifanc talentog Wrecsam ar hyn o bryd. Efallai y bydd rhai yn dymuno llunio gyrfa ym myd cerddoriaeth, ac eraill yn parhau i chwarae i fwynhau neu mewn cyngherddau lleol. Y ffactor pwysig yw eu bod wedi cael y cyfle hanfodol i archwilio cerddoriaeth, i ddatblygu eu sgiliau a gweithio gydag eraill sy’n rhannu eu diddordeb.
Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb Wasanaeth Cerddoriaeth Sir Wrecsam, ac mae’n amlwg fod nifer yn cytuno:mae dros 1000 wedi llofnodi’r ddeiseb ddiweddar yn erbyn y toriadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y Gwasanaeth.
Nid hymian ambell gân neu ddysgu ambell ddarn yw cerddoriaeth – mae’n llawer pwysicach a chryfach na hynny. Dylai bod pawb yn cael mynediad at gerddoriaeth, i ddysgu neu i wrando. Fel y dengys y cyngerdd, mae cerddoriaeth yn arbennig.