Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Mae canlyniadau�r arholiadau wedi cyrraedd!

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 17/08/2016 at 11:53
0 comments » - Tagged as Education, People, Work & Training

Yr amser rydych un ai wedi bod yn edrych ymlaen tuag ato, neu ei ofni. Bydd llawer o bobl ifanc ar hyd a lled y wlad yn aros i gael gweld a ydyn nhw wedi ennill y canlyniadau roedden nhw eu hangen i barhau ymhellach mewn addysg neu i gael y swydd yr hoffent ei chael. Ond, yn anffodus, ni fydd pawb felly, gyda rhai�n pendroni beth ddylen nhw ei wneud nesaf. Wel, peidiwch � phoeni - edrychwch ar ein cyngor a'n dolenni at wasanaethau gwahanol i�ch cefnogi. 
Os na chawsoch chi�r canlyniadau;
1. A oes modd i chi ailsefyll y cwrs? Cysylltwch �'ch coleg lleol i weld yr hyn y maen nhw'n ei gynnig ac os gallen nhw helpu.

2. Cysylltwch ��r coleg neu�r brifysgol rydych yn gobeithio mynd iddi a siaradwch � nhw. Mae rhai prifysgolion a cholegau fel Coleg Cambria yn cynnig cwrs mynediad neu efallai y gallwch ymgeisio ar gyfer cwrs arall. Bydd ganddynt hefyd gyngor gwych ar yr hyn y gallwch ei wneud nesaf. Nid chi yw�r unig un a fydd heb dderbyn y canlyniadau roedd ganddyn nhw eu heisiau felly efallai bod lle ar gyrsiau gwahanol yn dal ar gael.

3. Os oedd arnoch chi angen cymwysterau ar gyfer swydd, yna cysylltwch ��r cyflogwr i drafod beth sydd wedi digwydd. Mae dewisiadau eraill ar gael i chi.

Nid yw peidio � chael y canlyniadau roeddech chi wedi gobeithio amdanynt yn ddiwedd y byd. Nid yw popeth yn mynd yn iawn bob tro, ac rydym yn aml yn gweld ein bod ar drywydd gwahanol i'r un roedden ni wedi gobeithio bod arno. Ni wnes i'n dda yn yr ysgol, ond rydw i nawr ym Mhrifysgol Glynd?r yn astudio tuag at radd Meistr ac yn gwneud swydd sydd wrth fy modd. Mae wedi bod yn waith caled, a feddyliais i ddim erioed y byddwn i'n mynd i'r brifysgol. 
Os hoffech chi gael sgwrs

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.