Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Mae arnom ni angen pobl ifanc i helpu gyda digwyddiad hapusrwydd yn Wrecsam

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 12/03/2014 at 17:26
0 comments » - Tagged as Art, Dance, Education, Food & Drink, Health, People, School Holiday Activities, Topical

Mae arnom ni angen pobl ifanc i helpu gyda digwyddiad hapusrwydd yn Wrecsam

Mae dyn ifanc o Wrecsam sydd eisiau codi calon ei gymuned yn chwilio am wirfoddolwyr i’w helpu.

Mae Tobias Perks, sy’n 21 mlwydd oed, yn credu bod pobl weithiau yn anghofio gwenu oherwydd pwysau a straen eu ffordd o fyw modern.

Mae'n gweithio gyda Fixers i gynnal digwyddiad yn Wrecsam ddydd Sadwrn 22 Mawrth, o 11am tan 3pm, ac mae arno angen mwy o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i gymryd rhan a chreu tipyn o lawenydd.

Mae Fixers yn elusen genedlaethol sy'n cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i fynd i'r afael ag unrhyw fater sy’n bwysig iddyn nhw.

Meddai Tobias, “Dw i'n meddwl bod hapusrwydd yn bwysig i les pawb gan fod yna gymaint o bobl heddiw yn teimlo dan straen”.

“Wrth dyfu i fyny roeddwn i bob amser yn stopio pobl ar y stryd a gofyn iddyn nhw wenu – ac mi fydda’r rhan fwyaf yn gwneud. Dw i wastad yn teimlo’n hapus bod y dieithriad yma’n gwneud y byd yn lle hapusach wrth wenu.

“Dw i’n gwneud hyn yn fy ngwaith yn ogystal ag yn y brifysgol. Dw i’n hoffi gwneud y llefydd y byddaf yn gweithio ynddyn nhw yn llefydd hapusach gan fy i’n credu ein bod ni i gyd yn lwcus i fod yma. A dydi gwên yn costio dim!

“Dw i’n gobeithio y bydd fy nigwyddiad yn gwella morâl y gymuned. Byddai'n grêt cael llawer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y digwyddiad drwy glapio, dawnsio, canu, dweud jôcs, rhoi pump uchel i bobl ac unrhyw beth arall fydd yn rhoi gwên ar wyneb pobl.”

Bydd y digwyddiad yn dechrau yng Nghanolfan Siopa Dôl yr Eryrod yn Wrecsam gyda dewiniaid, jyglwyr, actorion mewn gwisgoedd a'r gwirfoddolwyr ifanc.

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael crys-T a syniadau ar sut y gallan nhw ymuno â’r hwyl. Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Sian Deal, Cydlynydd Pobl Ifanc Fixers Gogledd Cymru: sian@fixers.org.uk neu 07436 265905.

Meddai Tobias, “Dw i’n gobeithio bydd y digwyddiad yma yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, gan greu etifeddiaeth a fydd o fudd i'r gymuned leol - rhywbeth y gallan nhw edrych ymlaen ato."

Mae Fixers yn gweithio gyda phobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig. Mae pob Fixer yn derbyn cefnogaeth i greu’r adnoddau y bydd arnyn nhw eu hangen i wneud eu prosiect dewisol yn llwyddiant, gyda chymorth creadigol gan weithwyr proffesiynol yn y cyfryngau i greu deunyddiau hyrwyddo fel ffilmiau, gwefannau a gwaith argraffu.

Mae Fixers eisoes wedi cefnogi mwy na 11,000 o bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig i gael llais go iawn yn eu cymuned.

Mae pobl ifanc wedi ymgyrchu ar nifer o faterion gyda chymorth Fixers, o faterion fel seiber-fwlio, hunan-niweidio a hunanladdiad i’r angen am fwy o weithredoedd o garedigrwydd.

Erbyn 2020 mae Fixers yn gobeithio y byddan nhw wedi gweithio gyda dros 70,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i'w helpu nhw i weithredu a mynd i'r afael â'r materion y maen nhw’n teimlo'n gryf yn eu cylch. 

Ewch i www.fixers.org.uk am fwy o wybodaeth.

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.