Gwylia’r Bwlch
English version
Mae lansiad ymgyrch cyffrous newydd wedi dod a cyn seren Eastenders a Gavin & Stacey, Larry Lamb sy’n 66, a’r canwr gwych N-Dubz, Tulisa 22, at ei gilydd.
Mae’r act ddwbl anhebygol yma yn cefnogi lansiad Why Do gwasanaeth ar-lein newydd unigryw, sydd yn cael ei ariannu gan raglen Think Big O2 sydd yn bwriadu cynyddu’r ddealltwriaeth rhwng oedolion a phobl ifanc i helpu pontio bwlch y gwahaniad cenhedlaeth.
Yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan bobl ifanc, mae’r gwasanaeth cwestiwn ac ateb (C&A) yn galluogi oedolion i ddarganfod unrhyw beth a phopeth am bobl ifanc a beth maen nhw'n feddwl go iawn.
Mae’r wefan chefnogwyd gan O2, sydd yn greadigaeth Sabian Muhammad, 22 oed o Lundain, yn bwriadu ffrwydro’r chwedlau a’r camsyniadau am bobl ifanc wrth annog y cenedlaethau i siarad ar-lein.
Cafodd Sabian y syniad o greu gwasanaeth C&A unigryw ar-lein wrth weithio fel gweithiwr ieuenctid gwirfoddol yn Llundain. Gydag ariannu a chymorth gan raglen Think Big O2, sydd wedi’i ddylunio i gefnogi pobl ifanc gydag ysbrydoliaeth, roedd Sabian yn gallu troi ei syniad i mewn i wasanaeth cenedlaethol go iawn.
O gerddoriaeth, ffasiwn a gwybodaeth dydd i ddydd, i’r materion mawr sydd yn cael effaith ar bobl ifanc heddiw, bydd oedolion yn gallu mewngofnodi i whydo.co.uk a gofyn cwestiynau i bobl ifanc drwy glicio’r llygoden.
Unwaith bydd y cwestiynau yn cael eu cyflwyno, maent yn cael eu gyrru i ymgynghorwyr ifanc Why Do tm o 50 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd yn barod i helpu oedolion i ddeall ychydig mwy am bobl ifanc a beth sydd yn ysgogi nhw. Mewn ychydig oriau bydd yr ymatebion yn cael ei bostio ar whydo.co.uk
Ymwela ’r wefan Why Do i bostio cwestiwn neu i weld beth mae eraill wedi gofyn.