Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Enillodd Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam ddwy wobr glodfawr yn y noson ddiweddar i Wobrwyo Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru a gyflwynwyd gan Huw Stephens Dj BBC Radio 1 yn Stadiwm SWALEC Caerdydd. Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth o brosiectau gwaith ieuenctid rhagorol sydd ar gael i bobl ifanc ledled Cymru.
Enwebir prosiectau a staff i ennill gwobr gan weithiwr ieuenctid, person ifanc, cydweithiwr neu reolwr ac maent yn dathlu’r gwaith rhagorol a wneir ledled Cymru gan weithwyr ieuenctid a phobl ifanc. Mae chwe chategori ac enillodd Prosiect Ysbyty Gwaith Ieuenctid Inspire gategori’r Cyfraniad Nodedig i Iechyd a Lles Pobl Ifanc ac enillodd Lowri Kendrick, y Gweithiwr Ieuenctid Gwybodaeth a Chyngor yn yr INFOSiop, y categori Eiriolwr Nodedig i Bobl Ifanc.
Mae Inspire yn brosiect arloesol sy’n defnyddio cefnogaeth gwaith ieuenctid o fewn amgylchedd ysbyty ac o fewn y gymuned. Mae’r tîm yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n eu niweidio eu hunain, yn cynnwys camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, rheiny sy’n camreoli meddyginiaeth ac eraill sydd mewn argyfwng. Mae Inspire yn darparu cefnogaeth un i un i bobl ifanc, yn cefnogi pobl ifanc yn yr ysbyty, yn darparu sesiynau addysg mewn ysgolion uwchradd a Chlybiau Ieuenctid ac yn darparu eu Clwb Ieuenctid eu hunain. Mae’r tîm yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Lowri wedi gwneud gwaith eirioli ar ran pobl ifanc sy’n teimlo nad oes clust i’w llais, gan sicrhau bod eu dymuniadau a’u teimladau’n derbyn ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau amdanynt. Mae hi wedi annog pobl ifanc i ganfod eu lleisiau a herio penderfyniadau os oes angen gwneud hynny, gan sicrhau fod pobl ifanc yn cyfranogi’n llawn bob amser. Mae Lowri wedi eirioli’n ddiflino ar ran nifer o bobl ifanc o 11 i 25 oed am flynyddoedd lawer. Roedd y beirniaid yn cydnabod ei gallu amlwg i weithio gyda phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth niferus ac nad ydynt yn aml yn defnyddio’r gwasanaethau prif ffrwd. Drwy ei hymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd di-sigl, gall ymgysylltu â’r bobl ifanc yma, sicrhau eu hymddiriedaeth a datblygu perthynas bositif gyda nhw.
Meddai Donna Dickenson - Pennaeth Cyfoethogi Addysg - ‘Mae’n bleser mawr gen i fod Inspire a Lowri wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith rhagorol. Mae Lowri ac Inspire yn esiamplau rhagorol o’r ffordd mae Gweithwyr Ieuenctid yn Wrecsam yn cefnogi pobl ifanc i gyflawni mewn addysg a datblygu fel pobl.’
Llun – Lowri Kendrick (chwith)
Staff Inspire, gwirfoddol a pherson ifanc(Dde)