Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Gwaith a Hyfforddiant

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 15/05/2013 at 11:00
0 comments » - Tagged as People, Topical, Work & Training

Mae rhai ohonom yn gwybod yn iawn beth rydym am fod, ac nid oes gan eraill ohonom unrhyw syniad o gwbl.  Mae rhai ohonom yn dechrau mewn swydd ac yna’n sylweddoli y byddem yn hoffi gwneud rhywbeth hollol wahanol.  Mae’n rhaid i rai ohonom roi’r gorau i weithio am gyfnod, ac yna gorfod wynebu sut i ddychwelyd i’r gweithle.
Dyma rai pethau y gallai fod gennych gwestiynau yn eu cylch:
 
hyfforddiant a phrentisiaethau
dod o hyd i swydd
sut i ysgrifennu CV gwych
hawliau yn y gwaith
Ffyrdd gwahanol o Weithio
gweithio tra byddwch yn yr ysgol
gwirfoddoli

Ni allwch ddechrau gweithio’n llawn amser nes y byddwch wedi cyrraedd oedran swyddogol gadael yr ysgol, sef 16 oed.  Gallwch wneud rhywfaint o waith cyflogedig, megis rownd bapur, pan fyddwch yn 13 oed, ond bydd angen i chi gadarnhau’r cyfreithiau a’r rheoliadau lleol i ddechrau.
Mae gwneud gwaith gwirfoddol yn ffordd dda o gael profiad, cymryd rhan mewn rhywbeth rydych yn ei fwynhau neu’n credu ynddo, a theithio’r byd hyd yn oed.
Os oes gennych ymrwymiadau sy’n cyfyngu nifer yr oriau neu’r amseroedd y gallwch eu gweithio, mae yna opsiynau gwaith ar gael i chi o hyd.  Os oes gennych anabledd, yna mae help ar gael er mwyn i chi allu cymryd eich lle yn y gweithle.  Os ydych yn awyddus i efelychu Richard Branson, mae yna ddigon o gyngor a chymorth i’ch helpu i ddechrau arni.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.