Grantiau a arweinir gan ieuenctid
Wyt ti rhwng 14 a 25 oed?
Wyt ti rhwng 14 a 25 oed?
Wyt ti awydd gwneud rhywbeth hwyliog a chadarnhaol yn Wrecsam?
Wyt ti’n rhan o grŵp gwirfoddol neu mewn addysg?
Os wyt ti, yna mae ar Gwirvols Den dy angen di!
Mae gennym ni grantiau o £500 a allai wireddu dy syniadau.
Y cyfan sydd ei angen arnot ti ydy syniad ac ychydig o greadigrwydd i ddechrau, gwneud cais am y grant a chyflwyno’r syniad o flaen y ‘Dreigiau’ (y panel).
Pam ddylet ti gymryd rhan?
- Mae’n gwneud argraff ar CV
- Cyfle i wneud ffrindiau newydd
- Cyfle i wneud rhywbeth i eraill sy’n gwneud i TI deimlo’n dda!
Os hoffet ti a dy grŵp gymryd rhan mae croeso i ti gysylltu â Tegan Sollis, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Ieuenctid ar 01978 312556 neu e-bost: tegan.sollis@avow.org i gael rhagor o wybodaeth.