Gemau cyfrifiadurol... Y rhan dylunio
Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn chwarae gemau cyfrifiadurol ond ydych chi erioed wedi ystyried sut mae mynd ati i lunio gm? Mae’n dasg fawr yn ei hun (i mi beth bynnag), rydw i yng Nglynd?r yn astudio Datblygu Gemau ac rydym yn dysgu gwahanol fathau o ieithoedd megis JavaScript a C#, os wyddoch chi amdanynt? Defnyddia Xbox fframwaith o’r enw XNA ac mae hyn yn seiliedig ar y cod C#... hwn yw fy hoff un gan mai hwn yw’r un hawdd. Yn Nglynd?r rydym yn defnyddio’r meddalwedd a ddefnyddia’r diwydiant megis Unity Game Studio (mae am ddim gyda llaw) sy’n anodd ond gyda chymorth llyfrau a’r rhyngrwyd rydych yn ei ddeall yn eithaf buan:) mae rhai am ddim y gall unrhyw un ei ddefnyddio megis AGS (Adventure Game Studio) sy’n eithaf hawdd i’w ddefnyddio, ac hefyd yn seiliedig ar y cod C#... hefyd mae 'scratch' efallai eich bod eisoes wedi ei ddefnyddio yn yr ysgol, mae’n rhaglen yn defnyddio llusgo a gollwng, hawdd iawn eto.gallwch lunio PAC-MAN... mae pawb yn licio Pac-man yntydi! hihihi. Efallai bod gennych ddiddordeb mewn dylunio gemau (roedd gen i ddiddordeb yn 14 oed) a syniad rydych am roi cynnig
Bydd gennyf fwy am hyn a sgyrsiau am wahanol feddalwedd yn y dyfodol:)