Fy Mhreswyl Cyntaf
English version
Paciais fy mag y noson cynt fel bydda gen i lai i wneud ar y diwrnod.
Cefais fy nghodi o'r siop wybodaeth am tua 1 o'r gloch. Yna aeth y bws i Sir y Fflint ac yna i Ynys Mn.
Yna es drwy Sir y Fflint a Wrecsam eto i gael i'r Trallwng.
Roedd y siwrne bws yn antur fawr (Geoff) ac o'r diwedd cyrhaeddom y Trallwng am saith o'r gloch, felly roeddwn wedi bod ar y bws am chwe awr gyfan.
Ar y noson gyntaf cefais gyfarfod llawer o bobl wahanol o Gymru gyfan. Treuliais y mwyafrif o'r noson gyntaf gyda fy ffrindiau a golygai hyn ein bod wedi mynd i'r gwely am un y bore. Doedd y person roeddwn yn rhannu ystafell gydag ef ddim yn hapus iawn fy mod wedi dod i mewn ar yr adeg yma.
Ar yr ail ddiwrnod cefais fy neffro yn llawer rhy fuan am frecwast, am 8am. Y brecwast oedd selsig ac wy. l brecwast roedd rhaid dewis os oeddwn eisiau gwneud gweithdai fideo, ysgrifennu creadigol eu ffotograffiaeth.
Dewisais wneud y gweithdy fideo. Roeddwn yn meddwl ei fod yn weithdy da iawn gan fy mod wedi dysgu llawer o wybodaeth.
Ar brynhawn yr ail ddiwrnod es i lawr gwifren sip a dringo wal ddringo. Fe wnes i fwynhau'r mynd i lawr y wifren sip gan ei fod yn hwyl. Fe wnes i hefyd fwynhau dringo'r wal gan fy mod yn teimlo fy mod wedi cyflawni rhywbeth pan gyrhaeddais y brig.
Rhywbeth arall wnes i ar y pnawn Sadwrn oedd saethyddiaeth. Roeddwn yn meddwl fod saethyddiaeth yn dda iawn pan ddois i arfer gydag ef. Y peth diwethaf wnes i ar y pnawn Sadwrn oedd ogofau. Nes i ddim mwynau hyn cymaint 'r gweithgareddau eraill.
Ar y nos Sadwrn treuliais y mwyafrif o'r amser gyda fy ffrindiau a chael noson dda iawn. Cerddais i mewn i'm hystafell am ddau'r bore ac roeddwn yn llawer mwy distaw y tro hyn felly ni wnes ddeffro'r person oedd yn rhannu gyda fi.
Ar y dydd Sul deffrais, cael brecwast, dweud hwyl fawr wrth fy holl ffrindiau, a chyrraedd adref yn ddiogel.
Eisiau dod ar y Penwythnos CLIC nesaf? Cysyllta gyda Kath ar kath@cliconline.co.rk neu ar 029 2046 2222.