Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

DIWRNOD DIM YSMYGU

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 13/03/2013 at 11:53
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Topical

Beth yw’r Diwrnod Dim Ysmygu?

 

Mae’r Diwrnod Dim Ysmygu’n ymgyrch ymwybyddiaeth iechyd flynyddol sy’n helpu ysmygwyr sydd eisiau rhoi’r gorau iddi.

 

Cafwyd y Diwrnod Dim Ysmygu cyntaf ar Ddydd Mercher y Lludw yn 1984 ac erbyn hyn mae’n digwydd ar yr ail Ddydd Mercher ym mis Mawrth.

 

Rhoddodd fwy na miliwn o bobl y gorau i ysmygu ar y Diwrnod Dim Ysmygu yn 2008.

 

 

Pam ei fod yn bwysig?

 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod ysmygu’n ddrwg iawn i’i iechyd.

 

Mae’n cynyddu eich risg o gael canser yr ysgyfaint, mathau eraill o ganser, trawiad ar y galon, strôc a chlefyd cronig yr ysgyfaint

 

Mae hefyd yn arogli’n ddrwg ac yn costio’n ddrud.

 

Pam ddylwn i stopio?

 

Er mwyn eich iechyd. Er enghraifft, ar ôl 20 munud mae eich pwysedd gwaed a churiad eich calon yn normal eto, ar ôl 48 awr does dim nicotin ar ôl yn y corff ac mae eich gallu i flasu ac arogli’n llawer gwell, ac ar ôl blwyddyn mae’r risg o gael trawiad ar y galon wedi’i haneru.

 

I gael mwy o arian. Er enghraifft bydd rhywun sy’n ysmygu 20 y diwrnod yn arbed £40 yr wythnos, £176 y mis neu £2111 y flwyddyn!

 

Er diogelwch. Er enghraifft, roedd 65% o’r marwolaethau damweiniol yn y cartref yng Nghymru yn 2007/8 wedi’u hachosi gan ddefnyddiau ysmygu ac, ar gyfartaledd, mae 10 o bobl yn cael eu hanafu bob mis hefyd gan dân sydd wedi’i achosi gan ddefnyddiau ysmygu.

 

Er mwyn bod â mwy o ynni.

 

Fel nad ydych yn heneiddio cyn eich amser

 

Fel bod eich dannedd yn fwy gwyn.

 

I ostwng straen.

 

Fel eich bod yn gallu blasu ac arogli’n well

 

Er mwyn iechyd eich teulu a’ch cyfeillion.

 

 

Awgrymiadau da’r Diwrnod Dim Ysmygu i’ch helpu i roi’r gorau iddi’n llwyddianus.

 

Dewch o hyd i gyfaill sy’n mynd i roi’r gorau i ysmygu hefyd.

 

Taflwch flychau llwch, tanwyr a sigaréts yn y bin.

 

Cofrestrwch ar gwrs atal ysmygu rhad ac am ddim y GIG.

 

Ceisiwch osgoi unrhyw un nad ydynt yn cefnogi eich cais.

 

Ewch allan am dro bob tro y byddwch yn cael eich temtio i ysmygu.

 

Ymunwch â’r gampfa a mwynhau bod yn iach.

 

Llenwch yr oergell gyda byrbrydau iach, isel mewn calorïau fel ffyn moron a seleri felly os cewch eich temtio i fwyta yn lle ysmygu wnewch chi ddim ennill pwysau

 

Cynilwch yr arian rydych yn ei arbed.

 

 

Ymhle gaf i wybodaeth a chyngor?  

 

Gallwch gael y rhain gan eich meddyg teulu neu fferyllydd, neu o’r mannau dilynol:

 

www.stopsmokingwales.com                         0800 085 2219   (yng Nghymru)

Rydych 7 gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i ysmygu os defnyddiwch Dim Smygu Cymru nad y byddech o roi cynnig arni ar eich pen eich hun.

 

www.smokefree.nhs.uk                                  0800 022 4 332 

(llinell gymorth rhoi’r gorau i ysmygu GIG Cymru a Lloegr)

 

www.quit.org.uk                                             0800 00 22 00

stopsmoking@quit.org.uk        

Mae cynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi’n cynnig cefnogaeth barhaus yn rhad ac am ddim ar y ffôn, ebost, testun a’r we.

www.stub.org.uk                                            Gwefan ddwyieithog i bobl ifainc

www.wequit.co.uk                             `          

 

Infoshop                                                             01978 358900

2 Arcêd y Gogledd, Stryt Caer, Wrecsam   www.youngwrexham.co.uk

 

 

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.