Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2016

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 20/07/2016 at 10:58
0 comments » - Tagged as Art, Dance, Education, Health, People, School Holiday Activities, Sport & Leisure, Topical

Bydd Wrecsam yn dathlu�r 10fed Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a gynhelir yng nghanol tref Wrecsam, ddydd Mercher 3 Awst rhwng 12pm a 4pm, ar Sgw�r y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref). Gan mai hwn yw�r 10fed diwrnod chwarae, rydym yn gofyn i bobl anfon lluniau o'u �10 uchaf�) i ni i'w harddangos yn y Diwrnod Chwarae.
Gwahoddir pobl o bob oedran gan gynnwys babanod a phlant bach, plant h?n a phobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, i ymuno yn y digwyddiad hwyliog rhad ac am ddim hwn.  Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy�n ymwneud � chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau megis pwll tywod enfawr, cyfle i daflu d?r a chwarae � sothach a siglenni rhaff.
Bwriad y digwyddiad hwn yw pwysleisio hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a�u cymunedau lleol. Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i geisio sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniat�d i chwarae.
Y llynedd, daeth tua 3000 o bobl i ymweld � digwyddiad Diwrnod Chwarae ac rydym yn gobeithio y bydd digwyddiad eleni yn fwy ac yn well, ond yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd yw os ddaw pobl draw i ymuno yn yr hwyl.  Y cyfan rydym ni�n ei ofyn i chi yw dod yn barod i gael hwyl gyda dillad y gallwch eu gwlychu a�u baeddu. Yn y gorffennol mae teuluoedd wedi dod � phicnic er mwyn aros drwy�r prynhawn!
I gael gwell syniad am y mathau o bethau sy�n digwydd yn ystod Diwrnod Chwarae, ewch i: a chliciwch ar ddolen Diwrnod Chwarae i weld lluniau o'r digwyddiadau blaenorol.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.