Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Cystadleuaeth logo Gweld Gwybodaeth / Track it Down!

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 18/04/2012 at 16:58
0 comments » - Tagged as Art

Ffordd o ddod o hyd i wybodaeth am yr holl grwpiau a phrosiectau y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan ynddyn nhw yn ardal Wrecsam ydy Gweld Gwybodaeth / Track it down! Mae’n rhan o wefan www.youngwrexham.co.uk ar gyfer pobl ifanc

rhwng 11 a 25 oed yn Wrecsam. 

 

Sut i gystadlu:

 

o       Caiff pob person ifanc / prosiect gyflwyno un dyluniad.  

o       Ar bapur neu’n electronig.  

o       Mae’n rhaid i’r dyluniad gynnwys y geiriau Gweld Gwybodaeth neu Track it Down!

o       Cewch ddefnyddio unrhyw liwiau neu ddelweddau, cyn belled ’u bod yn addas ar gyfer pobl ifanc.

 

Dyddiad cau:

 

Rhaid postio neu gyflwyno eich dyluniad i Wrecsam Ifanc, Gwybodaeth i Bobl Ifanc, 2 Arcd y Gogledd, Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BB

Neu ein anfon trwy e-bost i youngwrexham@wrexham.gov.uk

erbyn dydd Gwener, 18 Mai 2012.

 

Be fydd yn digwydd nesaf?

 

Byddwn yn llunio rhestr fer o’r dyluniadau a’u dangos ar wefan Wrecsam Ifanc er mwyn i bobl ifanc bleidleisio dros eu hoff ddyluniad.

Bydd y 10 uchaf i’w gweld yn ystod noson ddathlu ar 11 Mehefin  pan gyhoeddir enw’r enillydd a chyflwyno’r gwobrau.

Y dyluniad buddugol fydd y logo swyddogol wedyn, a bydd i’w weld ar yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn y dyfodol. 

Pob lwc. 

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Kath ar 01978 358900 neu anfon neges e-bost: kath.pollitt@wrexham.gov.uk

 

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.