Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

CYFLOGI PLANT

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 18/02/2013 at 09:23
0 comments » - Tagged as Work & Training

Os ydych chi, fel cyflogwr, am i blant weithio i chi, mae'n rhaid i chi ystyried bod rheolau a rheoliadau llym sy'n rheoli faint o oriau y caiff y plentyn weithio, y math o waith y caiff y plentyn ei wneud a'r math o eiddo y bydd y plentyn yn gweithio ynddo. Pwrpas y rheolau yw atal unrhyw niwed i'r plentyn, diogelu'r plentyn rhag i rywun gam-fanteisio arno, a sicrhau nad yw addysg y plentyn yn dioddef.


Mae'n rhaid i blentyn fod wedi cael ei ben-blwydd yn dair ar ddeg oed cyn y gellir cyflwyno cais.


Yn l y gyfraith, yr Awdurdod (Addysg) Lleol yw'r asiantaeth a chanddi'r awdurdod i oruchwylio plant a chanddynt swydd ran-amser, ac sy'n gyfrifol am erlyn unrhyw gyflogwr sy'n torri'r gyfraith. Yn Wrecsam, yr Isadran Cynhwysiad Addysg, yn Adran Atal a Chynhwysiad y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc sydd 'r cyfrifoldeb hwn.

Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd yn iau na therfyn uchaf yr oed ysgol gorfodol. (Bydd addysg orfodol plentyn yn dod i ben ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol lle bydd yn troi'n un ar bymtheg (16) oed, ac nid yw'n gorffen ar ei ben-blwydd yn un ar bymtheg oed). Nid yw derbyn Rhif a Cherdyn Yswiriant Gwladol yn golygu y gall plentyn gael swydd amser llawn ac/neu adael yr ysgol).


Rhaid i bob plentyn oed ysgol sy'n cael ei gyflogi mewn swydd ran-amser fod wedi'i gofrestru gyda'r Awdurdod Addysg, a meddu ar drwydded waith. Cyfrifoldeb cyflogwyr yw gwneud cais am drwydded waith er mwyn cyflogi'r plentyn.

Rhaid i'r cyflogwr gynnal Asesiad Pobl Ifanc penodol o unrhyw beryglon sy'n gysylltiedig 'r gyflogaeth a hysbysu rhiant/gwarcheidwad y plentyn am y peryglon hynny (os oes peryglon i'w cael). Rhaid i'r cyflogwr hefyd wneud yn si?r bod y plentyn yn gwisgo dillad ac esgidiau priodol a bod hyfforddiant ac arweiniad priodol yn cael ei roi i'r plentyn, ynghyd sicrwydd yswiriant priodol.

Cyn pen 7 niwrnod ar l i'r plentyn ddechrau gweithio, rhaid i'r cyflogwr lenwi ffurflen gais Cyflogi Plentyn, y mae'n rhaid i riant/gwarcheidwad y plentyn ei llofnodi, a'i hanfon i'r Awdurdod (Addysg) Lleol. Mae'r ffurflen gais hon yn cynnwys manylion am y plentyn, yr oriau gwaith, y man gwaith a'r math o waith a gyflawnir. Rhaid cynnal asesiad risg a thrafod yr asesiad hwnnw gyda'r rhiant/gwarcheidwad. Yna, mae'n rhaid i'r rhiant/gwarcheidwad a'r cyflogwr lofnodi'r ffurflen gais.

Nid oes cyfeiriad at yr hyn y mae'n rhaid ei dalu plentyn oed ysgol yn unrhyw ran o'r ddeddfwriaeth. Gadewir y mater hwnnw i'w drafod rhwng y cyflogwr, y plentyn a'r rhiant/gwarcheidwad. Fodd bynnag, ystyrir bod y plentyn yn dal i gael ei gyflogi hyd yn oed os na thelir unrhyw gyflog, neu os telir mewn da (e.e. gwersi marchogaeth am ddim neu ginio neu nwyddau am ddim).

Cynghorir unrhyw gyflogwr sy'n ystyried cyflogi plentyn, ac nad yw wedi gwneud hynny o'r blaen, i gysylltu 'r Swyddog Cyflogaeth Plant yn yr Awdurdod Addysg i gael cyngor.

Dylai cyflogwyr roi sylw i'r canlynol:

Mae cyflogi plentyn dan dair ar ddeg (13) oed yn anghyfreithlon.

Mae cyflogi plentyn heb gael Trwydded Cyflogi Plant yn anghyfreithlon.

Dim ond ar gyfer mathau penodol o waith y ceir cyflogi plant.

Ni chaiff unrhyw blentyn weithio ar unrhyw bryd rhwng 7pm a 7am.

Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol.

Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddydd Sul.

Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 12 awr yn ystod unrhyw wythnos lle mae'n ofynnol iddo fynd i'r ysgol.

Caiff plentyn 13 neu 14 oed weithio hyd at 5 awr ar ddydd Sadwrn neu yn ystod gwyliau'r ysgol, ac fe gaiff weithio hyd at uchafswm o 25 awr yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol.

Caiff plentyn 15 neu 16 oed weithio hyd at 8 awr ar ddydd Sadwrn neu yn ystod gwyliau'r ysgol, ac fe gaiff weithio hyd at uchafswm o 35 awr yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol.

Rhaid i blentyn sy'n gweithio am 4 awr gael seibiant o 1 awr o leiaf.

Dim ond rhai o'r rheolau a'r rheoliadau sy'n gysylltiedig chyflogaeth plant a geir uchod. Rydych chi, fel cyflogwr, yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn llwyr ymwybodol o Ddeddfwriaeth Cyflogi Plant, a'ch bod, wrth gyflogi unrhyw blentyn, yn gwneud hynny mewn modd cyfreithlon.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.