Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Creu Entrepreneuriaid Cymru

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 27/10/2011 at 11:39
0 comments » - Tagged as Education, People, Topical, Work & Training, Volunteering

  • ice
  • rush

English version

Tua deufis yn l, yng nghalon Caerffili, bu ychydig  o drafodaethau yn digwydd. Roeddem i gyd yn eithaf sicr ein bod yn gwneud y peth iawn ac yn eithaf sicr nad oeddem yn wallgof, ond ti byth yn gwybod.

Penderfynom ofyn i rai pobl oedd yn gwybod am y math yma o bethau. Roedd yr ymateb yn anhygoel.

Felly, rydym yn sicr ein bod yn gwneud y peth iawn. Roedd y cynnwrf yno, y momentwm yno a byddai'r cyfle byth yn cyflwyno ei hun yn yr un ffordd eto.

A dyma enedigaeth ICE Cymru.

Felly, roedd ein hamcanion yn eithaf optimistaidd. I achub y byd ac ennill calon y ferch. A hefyd i greu llawer o entrepreneuriaid. Optimistaidd, fel dywedais uchod. Ond roedd y cynllun wedi cael ei ystyried yn ofalus. Gan ateb cwestiynau, yn hytrach nag gofyn nhw ac yn cwyno, darganfyddom fod y llwybr i ddarparu ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau wedi'i selio o gwmpas eu hyder a'u cred fod eu syniad yn un gall newid y byd. Bod hyn yn newid iddyn nhw eu hunain, neu os yw'n newid byd 10,481 neu 86,000,000 o bobl.

Dwi'n ei gymharu i dm pl droed. Os oes gen ti seren o streiciwr, gad i ni ddefnyddio Ian Rush fel esiampl, mae'n rhesymol i dybio dy fod am gael golau. Ond, os mai dim ond seren o streiciwr sydd gen ti, a dim gl-geidwad, rheolwr neu gefnogwyr, yna mae'n rhesymol i dybio, gan ddefnyddio Barcelona fel y byd, mai'r byd sydd am ennill. Ond ydy hynny yn dweud fod Ian Rush yn bl-droediwr sl, dim ond yn dda yn gwneud beth mae'n dda yn ei wneud. Ac, gyda Phil Jagielka a Christopher Samba i'r neilltu, fod y mwyafrif o chwaraewyr yn dda yn gwneud beth maen nhw dda yn ei wneud, eu harbenigedd.

Gad i ni ddod a hyn yn l i fusnes a chychwyn fel entrepreneur. Byddai'n eithaf llym ar Rushy os byddai'n cael ei farnu am beidio gallu amddiffyn, ac yn eithaf llym i entrepreneuriaid ffaelu gan nad ydynt yn poeni am filiau nwy. Efallai dylwn i wedi dewis pl-droediwr mwy diweddar, ond dwi'n hoffi Ian Rush. Pan ddylai'r cychwynnol ffaelu gan fod eu sylw wedi'i gwrthdynnu o gadw at eu cryfderau? Y cyffro cychwynnol yna ydy pwrpas y holl beth ac mae hyn yn cynhyrchu'r momentwm sydd yn gweld prosiectau'n symud trwy'r cyfnodau caled ac yn cyflawni'r mwyaf o lwyddiant yn ystod y cyfnodau da.

Rydym ni yn credu, i lwyddo yn yr hinsawdd bresennol, y rhwystr mwyaf ydy i gael pobl i drio o leiaf. Mae pawb yn teimlo wedi'u trechu cyn tynnu eu sanau ymlaen, ac nid dyma'r agwedd gorau i geisio trechu'r byd.

Felly, nawr rydym yn gweithio ar adeiladu'r rhestr o gynghorwyr mwyaf amrywiol fuodd erioed. Tra hefyd yn rhoi adeilad at ei gilydd sydd mor ysbrydoledig ag y mae'n llydan a thal. Ac yn llawer mwy llydan a thal na finnau.

Ymwela 'n Tudalen Ffan Facebook os wyt ti eisiau gwybod mwy neu eisiau helpu!


Gwybodaeth – Cyflogaeth a Hyfforddiant – Gwahanol Ffyrdd o Weithio - Hunangyflogaeth

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.