Cadw Plant a Phobl Ifanc yn Ddiogel Mewn Byd sy’n Hynod o Dechnolegol
Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 07/11/2012 at 16:14
- Tagged as Education, People, Technology, Topical
Aros yn Ddiogel Ar-lein – Rhannwch eich barn!
Gwyddom fod y Rhyngrwyd yn adnodd addysgol sy’n ysbrydoli a bod llawer iawn o fanteision i’w ddefnyddio. Ond, mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r dechnoleg yma mewn ffordd ddiogel a chyfrifol a’u bod yn gwybod am y manteision a’r peryglon.
Mae Bwrdd Diogelu Lleol, yn lansio arolwg ar Dachwedd 5ain 2012 i ganfod beth yw’r heriau i bobl broffesiynol, gwirfoddolwyr, pobl ifanc a rhieni i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel yn ein byd digidol technoleg uchel. Cymerwch 5 munud i lenwi’r arolwg a rhoi eich sylwadau i ni. Rydym angen ystyried eich barn wrth lunio hyfforddiant, gwybodaeth ac arweiniad i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Bydd yr arolwg yn cau ar Rhagfyr 5ain.
http://www.surveymonkey.com/s/bydsynhynododechnolegol