Bob blwyddyn mae’r Ddraig Ffynci yn cwblhau gwaith thema portffolio yn y pedwar maes canlynol
Bob blwyddyn mae’r Ddraig Ffynci yn cwblhau gwaith thema portffolio yn y pedwar maes canlynol:
1) Addysg a Sgiliau
2) Yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
3) Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ac am y tro cyntaf eleni:
4) Yr Iaith Gymraeg
Yn y Cyfarfod Blynyddol yn Abertawe fe etholwyd dau berson ifanc i fod yn gyd-gadeiryddion ar themâu portffolio 2013-14. Y cyd-gadeiryddion sy’n gyfrifol am arwain gwaith pob thema ac am gysylltu rhwng y Prif Gyngor a’r Llywodraeth wrth wireddu blaenoriaethau’r meysydd portffolio hyn.
Yn yr arolwg yma mae’r cyd-gadeiryddion yn gofyn i chi bleidleisio dros yr hyn rydych chi’n meddwl y dylai blaenoriaethau’r Ddraig Ffynci fod ym mhob thema portffolio yn ystod 2013-14. Bydd y Prif Gyngor yn edrych ar ganlyniadau’r bleidlais yng nghyfarfod preswyl nesaf y Cyngor ym mis Hydref.
Chewch chi ond pleidleisio dros un mater ym mhob thema. Serch hynny, os ydych chi’n teimlo bod gennych chi fater y mae angen ei drafod ond sydd heb ei gynnwys yn y rhestr bleidleisio, mae croeso i chi ychwanegu’r mater hwnnw at y rhestr.
Mae gan y Ddraig Ffynci ddiddordeb hefyd mewn gwybod barn pobl ifanc Cymru ar amrywiaeth o faterion gwahanol, ac o’r herwydd fe welwch chi bod lle tua diwedd yr arolwg i chi nodi eich barn bersonol eich hun.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i sawl pwrpas:
1) Bydd y Ddraig Ffynci yn pennu blaenoriaethau ei waith ar gyfer 2013-14.
2) Ategu gwaith ymchwil Her Cenhedloedd Unedig y Ddraig Ffynci o bosibl - ymchwil sydd i’w gyflwyno i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Llywodraeth Cymru. 3) Adnodd ar gyfer Fforymau Ieuenctid a Grwpiau’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru (e.e. Pen-y-bont ar Ogwr, Gwynedd, Torfaen ac ati) sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, iddyn nhw weld a oes materion sydd ag angen sylw yn eu sir nhw yn sgil canlyniadau.
4) Adnodd ymchwil ar gyfer unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y canlyniadau, neu a allai gael budd ohonyn nhw, e.e. bydd grwpiau gwrth-fwlio yn ystyried y canlyniadau bwlio.
Does dim angen nodi eich enw wrth gwblhau’r arolwg a bydd y Ddraig Ffynci’n defnyddio’r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi at bwrpasau’r arolwg a dim arall. Mi fydd y canlyniadau’n cael eu rhannu efo pobl eraill, ond fydd dim o’ch manylion personol chi yn cael eu rhannu.
Diolch.
https://www.surveymonkey.com/s/WP99QLK