Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

A'r Enillydd Yw

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 05/12/2011 at 15:13
0 comments » - Tagged as People, School Holiday Activities, Topical, Volunteering

  • dynamic
  • dyn2
  • dyn3

English version

Yn sefyll tu allan yn yr oerni yn y rasys gyda blwch arian yn fy llaw gallwn i ddim ond meddwl, "Pam ydw i'n gwneud hyn?"

Pam dwi'n esbonio i bobl beth dwi'n casglu amdano dwi'n cofio pam.

Dwi wedi bod yn gwirfoddoli ac yn aelod staff i'r Canolfan Dynamic ar gyfer Plant a Phobl Ifanc gydag Anableddau am bum mlynedd bellach.

Mae Dynamic yn elusen leol yn Wrecsam a dyma'r unig wasanaeth o'i fath yng Ngogledd Cymru.

Mae Dynamic yn rhoi cyfle i'r aelodau wneud pethau hwyl ar l ysgol. Mae'n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gydag anableddau gael chwarae, cymdeithasu, ymlacio a chyfarfod plant eraill sydd ag anableddau tebyg.

Mae hefyd yn rhoi seibiant i'r rhieni tra mae eu plant yn cael hwyl.

Fe wnes i ychydig o fetio am y tro cyntaf erioed ac roeddwn yn ddigon lwcus i ennill £5 ar un ras. Efallai dy fod di'n meddwl, "£5? Dim ond hynny?", ond ennill yw ennill, Ond, yr enillydd mwyaf heddiw oedd Dynamic, yn codi cyfanswm o £403.46.

Gyda chymorth y chwe gwirfoddolwr (gan gynnwys fy hun), am waith awr a hanner rydym yn teimlo llwyddiant mawr. Dwi'n annog i bawb fynd allan i helpu elusen leol, gan wybod pa mor hyfryd ydy hyn.

Gwirfoddoli Gyda Dynamic
Tudalen Gwirfoddoli CLIC

DELWEDDAU: www.dynamicwrexham.com

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.