Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Amnest cyllyll Gogledd Cymru yn cychwyn

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 28/11/2013 at 11:56
0 comments » - Tagged as Education, People, Topical

Mae swyddogion yng Ngogledd Cymru yn galw ar bobl ar draws yr ardal i ildio’u harfau gyda’r nod o addysgu pobl am beryglon cyllyll a chanolbwyntio ar gadw Gogledd Cymru yn ddiogel dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r amnest cyllyll chwe wythnos yn cychwyn ddydd Mercher y 27ain o Dachwedd a gall pobl ddod â chyllyll y maent eisiau cael gwared arnynt i nifer o orsafoedd ar draws yr ardal.

“Dros y 12 mis diwethaf mae cyllell wedi cael ei defnyddio yn 1% o’r troseddau treisgar yng Ngogledd Cymru ond rydym wedi ymrwymo i ostwng y ffigwr yma. Mae’r amnest yma yn rhoi cyfle i’r lleiafrif sydd â chyllyll yn eu meddiant i gael gwared arnynt yn ddiogel,” meddai’r Arolygydd Julie Sheard o Uned Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae cario cyllell yn drosedd ac rydych hefyd yn rhoi eich hun mewn perygl y gallai rhywun arall ddefnyddio eich cyllell eich hun yn eich erbyn. Nid yn unig yw cario cyllell yn erbyn y gyfraith, gall yr ôl effeithiau fod yn drychinebus.

Fe ychwanegodd: “Bydd cynnal ymgyrch o’r fath yn ein galluogi ni i gael gwared ar gyllyll, gan leihau’r risg i’r cyhoedd. Mae’n werth ei wneud hyd yn oed os mai dim ond un gyllell sy’n cael ei rhwystro rhag cyrraedd y dwylo anghywir.

Yn ychwanegol at hynny, bydd Swyddogion Cymunedol Ysgolion Gogledd Cymru yn rhoi gwersi mewn ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth am beryglon ac ôl-effeithiau cario cyllyll.

Mae biniau gwaredu coch wedi eu lleoli yng ngorsafoedd heddlu Wrecsam, yr Wyddgrug, Y Rhyl, Llandudno, Bae Colwyn, Llangefni, Caergybi, Bangor, Pwllheli, Porthmadog, Dolgellau, Blaenau Ffestiniog a Tywyn a gall aelodau o’r cyhoedd waredu eu harfau heb gael eu cyhuddo o unrhyw drosedd.

Meddai’r Arolygydd: “Yn y gorffennol rydym wedi cynnal amnest cyllyll llwyddiannus ac rydym yn mawr obeithio y bydd hwn yn llwyddiant hefyd – dyma hefyd gyfle gwych i gael gwared ar hen gyllyll o’ch ceginau neu hen arfau miniog.

“Er bod lefelau troseddau yn ymwneud â chyllyll yn isel yng Ngogledd Cymru, fe gawsom achos diweddar ym mis Hydref pan gafodd myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr eu hymosod arnynt gan ddyn yn ardal Wrecsam.

“Gyda’r achos hwn yn fyw yn ein meddyliau, mae’n hollbwysig ein bod yn addysgu pobl ynghylch effeithiau posibl cario cyllell.”

Fe ddylai’r rhai sydd eisiau cael gwared ar eu cyllyll neu arfau miniog eu lapio mewn cardbord er mwyn eu cludo i’r gorsafoedd.

Os ydych chi’n nabod rhywun sy’n cario cyllell cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999. Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu roi’r wybodaeth drwy eu gwefan (linc).

Nodyn:

• Yn ystod amnest cyllyll deufis ar Ynys Môn yn Chwefror 2009 cafodd 210 o gyllyll eu hildio.
• Yn 2006 fe gymerodd Heddlu Gogledd Cymru ran yn yr amnest cyllyll cenedlaethol cyntaf a gafodd ei lansio gan y Swyddfa Gartref. Cafodd dros 1,700 o gyllyll eu hildio ar draws ardal yr Heddlu.

Y Gyfraith:

• Mae’n anghyfreithlon i unrhyw siop werthu cyllyll o unrhyw fath (gan gynnwys cytleri a chyllyll cegin) i unrhyw un dan 18 oed
• Mae’n drosedd cario cyllell yn gyhoeddus heb reswm da – er enghraifft os ydych yn gweithio fel cogydd
• Y gosb fwyaf i oedolyn sy’n cario cyllell yw pedair blynedd o garchar a dirwy o £5000
• Mae’n anghyfreithlon cario, prynu neu werthu unrhyw fath o gyllell sydd wedi’i gwahardd gan y llywodraeth (mae’r rhestr o gyllyll gwaharddedig isod)
• Nid yw cyllyll gyda llafnau sy’n plygu, er enghraifft Cyllyll Byddin y Swistir, yn anghyfreithlon cyn belled nad yw’r llafn ddim hirach na thair modfedd (7.62cm)
• Os defnyddir unrhyw gyllell mewn ffordd fygythiol ( hyd yn oed cyllell gyfreithiol fel Cyllell Byddin y Swistir), caiff ei hystyried yn ‘arf bygythiol’ dan y gyfraith
• Gall yr heddlu ystyried bod unrhyw declyn miniog - hyd yn oed sgriwdreifer - yn arf bygythiol anghyfreithlon os nad oes  gennych reswm da dros gario un.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.